Skip to content

Ystadegau Trafnidiaeth Cymru 2010 – Pennod 10: Trafnidiaeth Forol

Dolenni perthnasol

Cynlluniwyd i gasglu ynghyd gwybodaeth am drafnidiaeth o nifer o ffynonellau ac i gynnwys nifer o flynyddoedd.
Cafodd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar drafnidiaeth forol i borthladdoedd Cymru, a baratowyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, eu cyhoeddi ar 22 Chwefror 2011 yn unol â'r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae'r ystadegau ar drafnidiaeth forol yn cynnwys data hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2010.

Dyma bwyntiau allweddol y cyhoeddiad diweddaraf:

  • Yn 2009, cafwyd 7,728 o achosion o longau'n glanio yng Nghymru. Mae nifer y llongau'n glanio wedi parhau i ostwng dros y 6 blynedd diwethaf, gyda'r nifer yn 2009 30 y cant yn is nag yn 2003, a 10 y cant yn is nag yn 2008.
  • Glaniodd tua thraean o'r llongau hyn yn Aberdaugleddau a Chaergybi (35 y cant a 37 y cant yn y drefn honno).
  • Roedd fferis cerbydau yn cyfrif am ychydig dros hanner (59 y cant) o'r holl longau a laniodd yng Nghymru.
  • Yn 2009, cludwyd dros 53 miliwn o dunelli o nwyddau ar longau domestig a thramor i borthladdoedd yng Nghymru, 4 y cant yn llai nag yn 2008.
  • Roedd tanwydd swmp yn cyfrif am 90 y cant o'r holl nwyddau i brif borthladdoedd Cymru yn 2009.
  • Yn ystod 2009, cludwyd 712,000 o gerbydau â theithwyr rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, hanner canran yn llai nag yn 2008.
  • Yn ystod 2010, cludwyd ychydig yn llai na 3 miliwn o deithwyr dros y môr rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, 6 y cant yn llai nag yn 2009.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Chwefror 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')