Skip to content

Gyrwyr Ifanc a Damweiniau ar y Ffyrdd, 2010

Dolenni perthnasol

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r ffynonellau a dulliau a ddefnyddir i lunio'r ffigurau ar ddamweiniau ac anafusion ffyrdd ac yn adolygu ansawdd y ffigurau.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar yrwyr ifanc (o dan 25 oed) a damweiniau ffyrdd a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru ar 23 Mehefin 2011 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig.
Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau am yrwyr ifanc a damweiniau ffyrdd yn cynnwys data ar gyfer Cymru am y cyfnod hyd at y flwyddyn 2010. Nid yw’r datganiad yma yn cael ei gyhoeddi yn rheolaidd. Mae'n edrych ar y graddau y mae gyrwyr ifanc yn fwy tebygol o fod mewn damwain na gyrwyr hŷn. Mae hefyd yn edrych ar y mathau o ddamweiniau mae gyrwyr ifanc yn rhan ohonynt ac a ydynt yn wahanol i’r mathau o ddamweiniau y mae gyrwyr hŷn yn rhan ohonynt.

Dyma’r pwyntiau allweddol o’r datganiad diweddaraf:

  • Mae gyrwyr ifanc yn fwy tebygol i fod mewn damwain na gyrwyr hŷn
  • Mae gyrwyr ifanc yn fwy tebygol o fod mewn mathau arbennig o ddamweiniau na gyrwyr hŷn
  • Nid yw gyrwyr ifanc yn fwy tebygol na gyrwyr hŷn o fod mewn damwain angheuol neu ddifrifol, o gyymharu â damweiniau bach
  • Mae dynion ifanc yn fwy tebygol o fod mewn damwain na merched ifanc, ond dim yn fwy na thuedd cyffredinol dynion o fod mewn mwy o ddamweiniau na merched.
  • Mae diogelwch ar y ffyrdd bellach yn gwella ar gyfer gyrwyr hŷn a gyrwyr ifanc.
  • Mae mwy o bobl ifanc 18, 19 a 20 oed mewn damweiniau nag unrhyw grŵp oed unigol arall o yrwyr ifanc.
  • Mae rhai awdurdodau yn y Cymoedd (yn enwedig Blaenau Gwent a Chaerffili) ac Ynys Môn yn ‘fannau poeth’ ar gyfer damweiniau sy'n gysylltiedig â gyrwyr ifanc. 
  • Os yw gyrrwr ifanc mewn damwain, yna mae’n llai tebygol o fod yn ddamwain angheuol neu ddifrifol mewn awdurdod lleol trefol; ac yn fwy tebygol o fod yn ddamwain angheuol neu ddifrifol mewn awdurdod lleol gwledig.

Nodyn

Mae nifer y marwolaethau ar y ffyrdd yn ystod 2010 wedi cael ei ddiwygio tuag at i lawr (ar 3 Awst 2011) o 95 lawr i 89 o'i gymharu â'r ffigurau a ddefnyddir i lunio'r Bwletin Ystadegol hwn. Nid yw'r newid hwn yn effeithio ar flynyddoedd blaenorol ac nid yw'r ffigurau ar gyfer anafiadau difrifol a mân anafiadau wedi newid.

Y rheswm dros y newid hwn yw bod y marwolaethau wedi cael eu hailddosbarthu fel rhai o ganlyniad i achosion naturiol, yn hytrach nag o ganlyniad i'r ddamwain traffig cysylltiedig. Roedd y bobl sy'n gysylltiedig i gyd yn yrwyr ceir hŷn ac nid oedd unrhyw un arall yn rhan o'r digwyddiadau hyn. Felly, mae'r newid hwn hefyd wedi lleihau nifer y damweiniau yn 2010, sydd bellach 6 yn llai. Mae'r diwygiad yn effeithio ar Heddlu De Cymru yn unig ac yn newid nifer y marwolaethau yn yr ardal honno yn ystod 2010 o 36 i 30.

Nid yw'r newid hwn yn effeithio ar unrhyw un o'r ffigurau a nodir yn y Bwletin hwn am yrwyr ifanc, ac felly nid yw'r Bwletin hwn yn cael ei newid; er gall y diwygiad i gyfanswm y marwolaethau effeithio ar unrhyw gymariaethau rhwng y nifer gafodd eu hanafu yn y grŵp hwn a'r nifer gafodd un hanafu'n gyffredinol ar gyfer 2010.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ddim yn allbwn rheolaidd