Skip to content

Ystadegau Trafnidiaeth Cymru, 2010 - Pennod 2: Trwyddedu a Pherchenogaeth Cerbyd

Dolenni perthnasol

Cynlluniwyd i gasglu ynghyd gwybodaeth am drafnidiaeth o nifer o ffynonellau ac i gynnwys nifer o flynyddoedd.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Drwyddedu a Pherchenogaeth Cerbydau, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 23 Awst 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ar Drwyddedu a Pherchenogaeth Cerbydau yn cynnwys data hyd at 2010.

Dyma’r prif bwyntiau o’r datganiad diweddaraf:

  • Yn 2010 roedd tua 92,000 o gofrestriadau cerbydau newydd yng Nghymru.
  • Yn ystod 2010 roedd Cymru yn cyfrif am 5 y cant o’r holl gerbydau a drwyddedwyd ym Mhrydain Fawr.
  • Rhwng 2009 a 2010 cafwyd cynnydd o 0.3 y cant i 1,733,000 yn nifer y cerbydau ffordd a drwyddedwyd yng Nghymru. Roedd 86 y cant o'r holl gerbydau ffordd a drwyddedwyd yn geir preifat neu yn gerbydau nwyddau ysgafn.
  • Yn 2010 cynyddodd oedran cyfartalog ceir trwyddedig yng Nghymru ychydig, i tua 8 mlynedd..
  • Mae gan bron i ddau o bob tri (65 y cant) o gerbydau preifat a cherbydau nwyddau ysgafn injan o faint mwy na 1500cc.
  • Yn 2006, roedd gan 77 y cant o aelwydydd Cymru fodd o ddefnyddio cerbyd modur.
  • Mae'r amcangyfrifon ar gyfer 2007/08 yn awgrymu bod 79 y cant o ddynion a 61 y cant o fenywod yn dal trwydded yrru lawn.
  • Mae’r nifer o fathodynnau parcio a roddwyd i unigolion sydd ag anabledd corfforol neu synhwyraidd wedi gweld cynnydd o bron i 2 y cant rhwng 2009 a 2010, i 235,205.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
Ebost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Awst 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)