Skip to content

Anafusion ar y Ffyrdd: Yfed a Gyrru, 2010

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ynglŷn â Anafusion ar y Ffyrdd yng Nghymru 2010: Yfed a Gyrru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 1 Rhagfyr 2011, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae’r ystadegau ynglŷn â Anafusion ar y Ffyrdd yng Nghymru: Yfed a Gyrru, yn cynnwys data am y cyfnod hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2010. Mae'r datganiad diweddaraf yn diweddaru'r ystadegau a gyhoeddwyd ar 29 Tachwedd 2010.

Mae'r ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael am yfed a gyrru a damweiniau yn awgrymu y bu gyrwyr â lefelau alcohol yn y gwaed uwchlaw'r terfyn cyfreithiol ar gyfer gyrru (80mg o alcohol am bob 100ml o waed ar hyn o bryd) mewn lleiafrif sylweddol o ddamweiniau yng Nghymru. Mae'r ansicrwydd ynghylch y data yn ei gwneud hi'n amhosibl cael yr union amcangyfrif ond mae'r amcangyfrifon uchaf (a baratowyd ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth, DfT) yn awgrymu bod un neu ragor o yrwyr dros y terfyn ar gyfer yfed a gyrru mewn cynifer â:

  • Tua 1 o bob 4 damwain angheuol yng Nghymru;
  • Tua 1 o bob 13 damwain ddifrifol yng Nghymru; ac
  • Tua 1 o bob 17 mân ddamwain.

Mae ffynonellau eraill o wybodaeth am yfed a gyrru yn awgrymu fel a ganlyn:

  • Roedd tua 18 y cant o yrwyr ceir a laddwyd mewn gwrthdrawiadau traffig dros y terfyn ar gyfer yfed a gyrru;
  • Roedd tua 11 y cant o yrwyr beiciau modur a laddwyd dros y terfyn ar gyfer yfed a gyrru; ac
  • Bu 127 o ddamweiniau yn 2010 lle'r oedd y swyddog heddlu o'r farn bod cerddwr neu gerddwyr oedd o dan ddylanwad alcohol yn ffactor a gyfrannodd at y damweiniau hynny.

Gyrru ar Gyffuriau

  • Am bob naw damwain lle'r oedd y gyrrwr o dan ddylanwad alcohol, roedd tua un ddamwain lle'r oedd o/hi dan ddylanwad cyffuriau - cyffuriau anghyfreithiol a meddyginiaethol.

Dengys profion anadl a wnaed ar yrwyr ar ôl damwain:

  • nad oes unrhyw batrwm tymhorol yn nifer yr anafusion dros gyfnod o flwyddyn yn sgil damweiniau lle cafwyd bod un neu ragor o'r gyrwyr wedi'u profi'n bositif;
  • mae mwy o yrwyr yn cael eu profi'n bositif dros y penwythnos nag yn ystod unrhyw ddydd o'r wythnos ac maent yn fwy tebygol o brofi'n bositif ar ôl gweithio oriau traddodiadol, rhwng 16:00 a 04:00.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Rhagfyr 2012 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen I'w Cyhoeddi Cyn Hir)