Skip to content

Monitro'r Cynllun Trafnidaeth Cenedlaethol, Diweddariad 2011

Dolenni perthnasol

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud ag ystod eang o ddata trafnidiaeth ar gyfer Cymru (gyda rhai ffigurau i gymharu â rhannau eraill o Brydain) ar gyfer y cyfnod diweddaraf.
Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud ag ystod eang o ddata trafnidiaeth ar gyfer Cymru (gyda rhai ffigurau i gymharu â rhannau eraill o Brydain) ar gyfer y cyfnod diweddaraf.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Fonitro y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, ar 27 Mawrth 2012 yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Gwefan Awdurdod Ystadegau'r DU Mae ystadegau ar Fonitro Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn cynnwys data ar draws Cymru, ar gyfer y cyfnod o 2006 hyd at 2010. Y datganiad hwn yw'r cyntaf mewn cyfres o diweddariadau blynyddol i llinell sylfaen yr adroddiad monitro a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2011.

Dyma'r prif bwyntiau o'r datganiad diweddaraf:

  • Mae 8 allan o 10 taith i'r gwaith yn cael eu gwneud gan ddefnyddio car neu fan. Mae ffigwr hwn wedi aros yn gyson am y 10 mlynedd diwethaf.
  • Amcangyfrifir y bydd dros 50 miliwn o siwrneiau wedi eu gwneud gan ddefnyddio'r Tocyn Mantais Prisiau Bws yng Nghymru yn 2011-12.
  • Mae targedau diogelwch ar y ffyrdd a osodwyd yn 2000 yn cael eu bodloni i gyd yn 2010; gyda 2010 yn adrodd y lefel isaf o farwolaethau, 89, a nifer isaf o anafiadau difrifol, 998, yn y cyfnod o ddeng mlynedd.
  • Gostyngodd nifer y teithwyr bws yng Nghymru o tua 118 miliwn yn 2009-10 i 113 miliwn yn 2010-11.
  • Mae nifer y teithwyr ar y rheilffyrdd yng Nghymru wedi cynyddu o tua 25 miliwn yn 2008-09 i 26 miliwn yn 2009-10.
  • gostyngodd traffig ar y ffyrdd yng Nghymru o 27.95 biliwn cilomedr cerbyd yn 2009 i 27.43 biliwn cilomedr cerbyd yn 2010, y lefel isaf ers 2005.
  • disgynnodd nifer y teithwyr ar y môr o 2.9 miliwn yn 2010 i 2.8 miliwn yn 2011.
  • disgynnodd nifer y teithwyr awyr ym Maes Awyr Caerdydd o 1.4 miliwn yn 2010 i 1.2 miliwn yn 2011.
  • Bu gostyngiad o allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n ymwneud â chludiant o dros 4 y cant rhwng 2008 a 2009.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: stats.transport@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Mawrth 2013 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')