Skip to content

Gwasanaeth Ieuenctid, 2009-10: Penawdau Canlyniadau Cychwynnol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf ar y Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 29 Hydref 2010, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig.

Mae'r ystadegau pennawd yn cynnwys ffigurau am aelodau gwasanaeth ieuenctid, achrediadau, projectau a gweithlu ar gyfer Cymru am y cyfnod Ebrill 2009 - Mawrth 2010.

Y pwyntiau allweddol o'r datganiad diweddaraf yw:

  • Roedd tua 100,000 o bobl ifanc yn aelod o'r Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru. Mae ffigwr hwn yn cynrychioli 18(r) y cant o'r poblogaeth rhwng 11 a 25 mlwydd oed yng Nghymru;
  • Derbyniwyd tua 16,000 o bobl ifanc canlyniadau achrededig yn ystod y flwyddyn, yn cynrychioli 16 y cant o aelodau y Gwasanaeth Ieuenctid.
  • Roedd tua 1,400 o brojectau Gwasanaeth Ieuenctid yn rhedeg ar draws Cymru. Cyflawnwyd tipyn bach mwy na dau draean o'r brojectau hwn gan y Gwasanaeth Ieuenctid yn unig a chyflawnwyd bron traean mewn partneriaeth â chyrff eraill.
  • Ym mis Mawrth 2010, roedd mwy na 1,000 o staff rheoli a chyflwyno y Gwasanaeth Ieuenctid cyfartal ag amser llawn (CALl) yn gweithio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Roedd 14 y cant yn rheolwyr a 86 y cant yn gweithio mewn swyddi cyflwyno gwaith ieuenctid.

Nodyn diwygio

Mae'r datganiad, diwygiwyd ar 25 Tachwedd 2010, wedi bod yn destun i nifer o newidiadau bach o ganlyniad i ddiwygiadau i ffigurau aelodau ac achrediadau o Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 029 2082 3332
E-bost: post16ed.stats@wales.gsi.gov.uk

Diweddariad nesaf

Ionawr 2011 (dros dro - i'w gadarnhau ar y dudalen 'I'w cyhoeddi cyn hir')