Skip to content

Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion

Dolenni perthnasol

Caiff ei gyhoeddi ar 20 Tachwedd 2008
Bob blwyddyn gan ysgolion meithrin, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig a gynhelir yng Nghymru.

Data diweddaraf

Cyfrifiad Ysgolion, 2011

Data pellach

Gwefan StatsWales: Ysgolion ac Athrawon

Dangosyddion lles neu dlodi plant seiliedig ar y ffynhonnell ddata hon

Dim.

Dosbarthiadau data

Nodwedd y data Ydi'r data ar gael?  Nodiadau
Oed Ydi, mae'r data ar gael  
Anabledd Ydi, mae'r data ar gael  
Tarddiad ethnig Ydi, mae'r data ar gael  
Ffydd Na, nid yw'r data ar gael  
Rhyw Ydi, mae'r data ar gael  
Iaith Ydi, mae'r data ar gael Mae CYBLD yn edrych ar ba mor rhugl yn Gymraeg yw disgyblion (a yw disgyblion yn gallu deall, siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg fel iaith gyntaf), ac a oes gan ddisgybl anghenion ychwanegol mewn iaith Saesneg. O Ionawr 2011 bydd CYBLD hefyd yn gofyn am iaith gyntaf disgyblion, yn amodol ar ymatebion i’r ymgynghoriad. 
Awdurdod lleol Ydi, mae'r data ar gael  
Cyfeiriadedd rhywiol Na, nid yw'r data ar gael  


Cefndir

Rhai eitemau o ddata a gesglir yn y CYBLD yw:

  • enw’r disgybl
  • rhyw
  • dyddiad geni
  • cod post cartref
  • grŵp ethnig
  • hawl i brydau ysgol am ddim
  • gwybodaeth am anghenion addysgol arbennig (AAA).

Yng Nghronfa Ddata Cenedlaethol y Disgyblion, cysylltir data â chanlyniadau cyfnod allweddol y disgybl, canlyniadau arholiadau a chofnodion presenoldeb disgyblion, gan ddarparu ffynhonnell ddata gyfoethog i Lywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdodau Lleol a defnyddwyr eraill ynghylch disgyblion yng Nghymru

Amledd: Blynyddol.
Adeg cyhoeddi: Mehefin.