Skip to content

Nod Craidd 3: Iechyd a diogelwch

Dolenni perthnasol

Caiff ei gyhoeddi ar 20 Tachwedd 2008
Plant
Ffynonellau data sydd i'w cael ar blant a phobl ifanc i gefnogi'r gwaith o fonitro Nod Craidd 3.



Mae Nod Craidd 3 yn sicrhau bod bob plentyn a pherson ifanc yn mwynhau’r iechyd corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol gorau posibl, heb i unrhyw un eu cam-drin, gwneud cam a hwy na manteisio arnynt. Mae yna amrywiaeth o ffynonellau data ar gael sy'n berthnasol i'r nod craidd hwn gan gynnwys data yn ymwneud â lles corfforol ac emosiynol.

Ystadegau Erthyliadau

05/03/12
Mae'r Adran Iechyd yn cyhoeddi ystadegau erthyliadau bob blwyddyn.
 

Cofrestri Amddiffyn Plant Cymru

05/03/12
Mae'r wybodaeth am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn bennaf yn ddata o Gofrestri Amddiffyn Plant Cymru, ond daw cyfran ohoni hefyd o ffynonellau ar gyfer Lloegr/y DU lle bo'n briodol.
 

Arolwg Iechyd Cymru

05/03/12
Mae Arolwg Iechyd Cymru yn cwmpasu oddeutu 3,000 o blant (o dan 16 oed) y flwyddyn, yn holi ynghylch iechyd cyffredinol, ffordd o fyw sy’n gysylltiedig ag iechyd, a defnydd plant o’r gwasanaeth.
 

Ystadegau Beichiogrwydd yn yr Arddegau

05/03/12
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n cynhyrchu'r ffigurau ar feichiogrwydd yn yr arddegau yng Nghymru a Lloegr.
 

Ystadegau ar Wasanaethau Cymunedol y GIG ar gyfer Atal Cenhedlu

05/03/12
Crynodeb o'r data ar wasanaethau cymunedol atal cenhedlu a ddarperir gan glinigau yng Nghymru.
 

Arolygon Cymdeithas Prydain ar gyfer Astudio Deintyddiaeth Gymunedol (BASCD)

05/03/12
Mae arolygon BASCD wedi darparu persbectif hydredol ar y newid yn iechyd y geg mewn plant ers cynnal yr arolwg cenedlaethol cyntaf yn 1985/1986 ar gyfer plant 5 mlwydd oed.
 

Ystadegau hunanladdiad

06/09/11
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y data diweddaraf ar niferoedd a chyfraddau hunanladdiad ymysg oedolion yn y DU o 1991 ymlaen.
 

Ystadegau Mamolaeth y GIG

20/05/11
Crynodeb o'r data ar ystadegau mamolaeth gan ganolbwyntio ar y dulliau o esgor. Data ar gleifion mewnol ysbytai yw ffynhonnell y data, ac mae proffil o'r esgoriadau ar gael. Mae gwybodaeth am oedran mamau ar gael.
 

Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol (YIPOY)

01/10/09
Mae arolwg HBSC 2005-06, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2008, yn cynnwys data o 41 o wledydd a rhanbarthau yn Ewrop a Gogledd America. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar y cyd â thimau ymchwil o wledydd eraill sy'n cymryd rhan, yn cydweithio â Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ew ...
 

Coverage of Vaccination Evaluation Rapidly (COVER)

01/10/09
Mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru yn casglu’r data imiwneiddio o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Cyhoeddir adroddiad COVER (Coverage of Vaccination Evaluation Rapidly) yn flynyddol a chwarterol.
 

Ystadegau camddefnyddio sylweddau

01/10/09
Mae'r Adran Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyhoeddi ystadegau ar wasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Prif ffynhonnell y data yw Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau, sydd yn nwylo Atebion Iechyd Cymru.
 

Adroddiad ar Dueddiadau HIV a Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol yng Nghymru

01/10/09
Mae Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, ac y cyd â chlinigau meddygaeth genhedlol-wrinol, yn edrych ar nifer yr achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol sy'n cael eu trin yng Nghymru. Maent yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dueddiadau HIV a ...