Skip to content

Nod Craidd 6: Cartref a chymuned ddiogel

Dolenni perthnasol

Caiff ei gyhoeddi ar 20 Tachwedd 2008
Dau blant yn rhedeg
Ffynonellau data sydd i'w cael ar blant a phobl ifanc i gefnogi'r gwaith o fonitro Nod Craidd 6.



Mae Nod Craidd 6 yn datgan y dylai plant a phobl ifanc fyw mewn cartref a chymuned ddiogel. Mae yna amrywiaeth o ffynonellau data sy'n berthnasol i'r nod craidd hwn sy'n cynorthwyo lles corfforol ac emosiynol yr unigolion hyn.

Damweiniau Ffordd

06/03/12
Y nifer o blant (0-15 oed) a laddwyd, a anafwyd yn ddifrifol ac a anafwyd ychydig.
 

Arolwg Byw yng Nghymru

06/03/12
Mae’r arolwg yn rhoi gwybodaeth ystadegol am aelwydydd, am sefyllfa a barn yr ymatebwr ac ychydig o wybodaeth am unigolion ar yr aelwydydd hyn.
 

Ystadegau digartrefedd

06/03/12
Gwybodaeth am aelwydydd a dderbynnir fel rhai digartref, y rhesymau am y digartrefedd a’r aelwydydd sydd mewn llety dros dro.
 

Astudiaeth Teuluoedd a Phlant

01/10/09
Yn banel astudio wedi’i adfywio o oddeutu 7000 o deuluoedd ym Mhrydain, sy’n archwilio amgylchiadau pob teulu sydd â phlant dibynnol.
 

Arolwg Troseddu a Chyfiawnder

01/10/09
Mae’r arolwg yn casglu tystiolaeth i’n helpu i dargedu adnoddau’n effeithiol ar gyfer gostwng lefelau troseddu a defnydd anghyfreithlon o gyffuriau.
 

Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol (YIPOY)

01/10/09
Mae arolwg HBSC 2005-06, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2008, yn cynnwys data o 41 o wledydd a rhanbarthau yn Ewrop a Gogledd America. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, ar y cyd â thimau ymchwil o wledydd eraill sy'n cymryd rhan, yn cydweithio â Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ew ...
 

Arolwg Troseddu Prydain

01/10/09
Mae Arolwg Troseddu Prydain (BCS) yn ffynhonnell wybodaeth bwysig am lefelau troseddu ac agweddau cyhoeddus tuag at droseddu yn ogystal â materion eraill yn ymwneud â chyfiawnder troseddol. Mae’r canlyniadau’n chwarae rhan bwysig mewn hysbysu polisïau’r Llywodraeth.
 

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

01/10/09
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 (WIMD) yw’r mesuriad swyddogol o amddifadedd mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Cafodd ei ddatblygu i Lywodraeth Cynulliad Cymru gan Gyfarwyddiaeth Ystadegol y Cynulliad ac Uned Data Llywodraeth Lleol (Cymru). Mae’n cymryd lle’r mynegai a gynhyrchwyd yn 2005.
 

Astudiaeth Carfan y Mileniwm

01/10/09
Arolwg ar raddfa eang yw Astudiaeth Carfan y Mileniwm, o fabanod y ganrif newydd, a’r teuluoedd sy’n eu magu, ar gyfer pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Cynyddwyd y sampl yng Nghymru er mwyn darparu data cadarn ar lefel genedlaethol. Cynhaliwyd y cyrch cyntaf yn ystod 2001-02, ac aed ar drywydd yr yma ...