Skip to content

Arolwg Iechyd Cymru: Cynnwys

Yn yr arolwg presennol, ceir.

1. Cyfweliad wyneb-yn-wyneb ar yr aelwyd gydag oedolyn cyfrifol. Fe'i defnyddir i gyfrif nifer y bobl ar yr aelwyd a chofnodi'r wybodaeth ganlynol:

  • Oed a rhyw
  • Asesiad bras o iechyd cyffredinol
  • Gwybodaeth am dai (gan gynnwys nifer y blynyddoedd a dreuliwyd yn y cyfeiriad, deiliadaeth)
  • Statws cyflogaeth a dosbarthiad economaidd-gymdeithasol (i'w gasglu ar gyfer Person Cyswllt y Cartref yn unig (y person sy'n rhentu neu'n berchen ar y llety yn ei enw/ei henw ei hun)).

2. Holiadur i'w lenwi gan yr oedolion gyda'r adrannau canlynol:

  • Defnyddio'r gwasanaeth iechyd
  • Meddyginiaethau
  • Salwch
  • Iechyd a lles cyffredinol
  • Ysmygu
  • Alcohol
  • Frwythau a llysiau
  • Ymarfer Corff
  • Gofalwyr
  • Cwestiynau amdanoch chi (oed, rhyw, taldra, pwysau, cymwysterau etc)

3. Ar gyfer plant o dan 16 oed, holiadur gyda'r adrannau craidd canlynol:

  • Cwestiynau am y plentyn (oed, rhyw, grŵp ethnig)
  • Iechyd a lles cyffredinol
  • Defnyddio'r gwasanaeth iechyd
  • Damweiniau y mae angen eu trin yn yr ysbyty
  • Salwch a phroblemau iechyd

Yn ogystal, holiadur am blant 0-3 oed sy'n cynnwys cwestiwn ar fwydo babanod. Mae'r holiadur ar gyfer plant 4-12 oed a 13-15 oed yn cynnwys adrannau ar arferion bwyta, gweithgaredd corfforol a'r holiadur Cryfderau ac Anawsterau.