Skip to content

Arolwg Iechyd Cymru: Datblygiad

Roedd Arolwg Iechyd Cymru yn disodli dau arolwg blaenorol: Yr hen Arolwg Iechyd Cymru (a gynhaliwyd ym 1995 a 1998) a'r Arolwg o Iechyd yng Nghymru (a gynhaliwyd pob dwy i dair blynedd rhwng 1985 ac 1996).

2011-13

Yn 2011-12, er mwyn profi’r posibilrwydd o gyflwyno cysylltu data i Arolwg Iechyd Cymru, fe ddatblygwyd a phrofwyd dull newydd yn gofyn i atebwyr yr arolwg am eu caniatâd i gysylltu eu atebion arolwg dienw i wybodaeth amdanynt sy’n cael ei ddal mewn setiau data arall, er mwyn creu cronfa wybodaeth ddata fwy cyfoethog. Yn dilyn y gwaith hyn, fe gyflwynwyd dull newydd o Ebrill 1 2013 sy’n ymofyn â chaniatâd atebwyr i gysylltu data. Mae hyn yn ffurfio rhan opsiynol ychwanegol o’r arolwg, a phwysleisir i’r atebwyr hynny sy’n dewis i beidio â rhoi eu caniatâd i gysylltu data fod eu atebion arolwg yn unig yn dal i fod yn hynod ddefnyddiol.

Arolwg Iechyd Cymru: Profi gwybyddol o ffurflenni caniatâd cysylltu data a dogfennau ategol

Arolwg Iechyd Cymru: Astudiaeth yn gofyn caniatâd i gysylltu data

2011

Yn dilyn gwerthusiad o Arolwg Iechyd Cymru yn 2009, gwnaethpwyd rhai newidiadau bach i gwestiynau'r holidaur. Mae'r adroddiad yma yn disgrifio'r profi gwybyddol a wnaed ar rhai o'r cwestiynau.

Profi gwybyddol o gwestiynau newydd ar gyfer Arolwg Iechyd Cymru 2011

2009-2010

Cynhaliwyd arfarniad defnyddwyr yn 2009 - ar y cyfan dangoswyd bod yr arolwg yn gweithio’n dda i gwrdd ag anghenion y defnyddwyr, ond bod lle i wella wrth ledaenu'r canlyniadau. Cynhaliwyd adolygiad lledaenu yn 2010; yn dilyn hynny cynhyrchwyd cynllun lledaenu.

Arfarniad Arolwg Iechyd Cymru

Adolygiad lledaenu Arolwg Iechyd Cymru

Cynllun lledaenu Arolwg Iechyd Cymru

2007-2008

Yn sgil cynnal cyfweliadau gwybyddol, gwnaed mân newidiadau i rai cwestiynau ar gyfer 2007 a 2008.

Adroddiad Cryno ar Gynllun Peilot Gwybyddol Arolwg Iechyd Cymru 2007

Adroddiad Cryno ar Gynllun Peilot Gwybyddol Arolwg Iechyd Cymru 2008

2005-2007

Cynhaliwyd arbrawf i brofi effaith yr elfennau newydd hyn ar y gyfraddau ymateb, ac argymhellwyd y dylid mabwysiadu'r holiadur estynedig ar iechyd plant. Fe'i cyflwynwyd ym mis Ionawr 2007.

Arolwg Iechyd Cymru: Profi Effaith Holiadur Estynedig i Blant ar Ansawdd Data

Adroddiad Cryno ar Gynllun Peilot Gwybyddol Arbrawf Plant Arolwg Iechyd Cymru

2004-2005

Ar y dechrau, canolbwyntiwyd yn bennaf ar oedolion, ond yn sgil ymgynghori â defnyddwyr yn 2004, nodwyd bod galw am ddata manylach ar iechyd plant, y gellid eu casglu drwy gynnwys holiadur hwy ar blant a mesuriadau o daldra a phwysau plant.

Potensial arolwg ar iechyd a lles plant yng Nghymru

Potensial arolwg ar iechyd a lles plant yng Nghymru (Saesneg yn unig): Gwerthusiad o Gwestiynau Posibl yr Arolwg

2002-2003

Yn sgil astudiaeth ddichonoldeb yn 2002, sefydlwyd Arolwg Iechyd Cymru ym mis Hydref 2003 ac yn cael ei gynnal drwy gydol y flwyddyn.

Astudiaeth ddichonoldeb ar gyfuno Arolwg Iechyd Cymru a'r Arolwg o Iechyd yng Nghymru