Skip to content

Arolwg Iechyd Cymru: Methodoleg

Dolenni perthnasol

Mae'r papur yma yn dangos fel y mae arolwg yn adlynu i fesurau ansawdd.

Roedd yr arolwg yn seiliedig ar sampl cynrychiadol o oedolion 16 oed a throsodd sy'n byw ar aelwydydd preifat yng Nghymru (ynghyd â pheth gwybodaeth am blant sy'n byw ar yr aelwydydd hynny). Ni chafodd y rheini sy'n byw mewn sefydliadau eu cynnwys yn yr arolwg hwn.

Caiff hapsampl o gyfeiriadau o'r Ffeil Cyfeiriadau Cod Post ei ddewis gan ddefnyddio dyluniad samplu tebygolrwydd aml-gam sydd wedi'i drefnu yn haenau priodol.  Ar bob aelwyd, mae pob oedolyn (16 oed a throsodd) yn gymwys i'w gynnwys yn yr arolwg. Mae data'n cael ei gasglu'n ddi-dor trwy gydol y flwyddyn.

Cesglir yr wybodaeth ar ddwy lefel:

  • Yr aelwyd - cyfweliad byr gydag oedolyn cyfrifol ar bob aelwyd.
  • Unigol - yr holiaduron i'w llenwi a'u casglu'n ddiweddarach:
    • O 2007 ymlaen, ceir pedwar holiadur unigol:
      • Ar gyfer oedolion 16 oed +, holiadur i'w lenwi gan yr unigolyn ei hun (holiadur hunan-lenwi).
      • Ar gyfer plant o dan 16 oed, holiadur (ynghyd â mesuriadau o daldra a phwysau plant 2 oed a throsodd) ar gyfer tri gr?p oedran gwahanol ar gyfer dim mwy na dau blentyn a ddewiswyd ar hap ar yr aelwyd.
        0 - 3 mlwydd oed - holiadur i'w lenwi gan riant/gwarcheidwad
        4 - 12 oed - holiadur i'w lenwi gan riant/gwarcheidwad
        13-15 oed - holiadur hunan-lenwi

    • Cyn 2007 roedd dau holiadur unigol:
      • Ar gyfer oedolion 16 oed +, holiadur hunan-lenwi.
      • Ar gyfer plant o dan 16 oed, holiadur byr i'w lenwi gan riant/ gwarcheidwad am bob plentyn ar yr aelwyd.

Y nod yw sicrhau sampl o ryw 15,000 o oedolion a 3,500 o blant bob blwyddyn, i gynnwys o leiaf 600 o oedolion o bob ardal yr awdurdod lleol. Bydd meintiau'r samplau ychydig yn llai oherwydd effeithiau'r dyluniad (dyluniad wedi'i glystyru).

Cynhaliwyd yr arolwg gan y Ganolfan Genedlaethol er Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.