Skip to content

Tai fforddiadwy

Gwybodaeth am nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd ledled Cymru a sut cyfrannodd y system gynllunio at ddarparu yr unedau tai hyn. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am amcangyfrif o’r ddarpariaeth yn y dyfodol.

Cesglir data ar dai fforddiadwy gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau parciau cenedlaethol bob blwyddyn.

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i edrych ar dueddiadau yn narpariaeth unedau tai ychwanegol fforddiadwy dros amser. Ym mis Mai 2012 fe wnaeth Papur Gwyn Gwella Bywydau a Chymunedau Llywodraeth Cymru gynnig ‘camau i gynyddu y cyflenwad tai newydd gan gynnwys defnyddio ystod o fecanweithiau ariannu arloesol’, a gosododd targed o 7,500 o dai newydd fforddiadwy i gael eu darparu yn ystod tymor y Llywodraeth. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i fonitro’r cynnydd a wnaed tuag at y targed hwn, yn ogystal â monitro’r ymrwymiadau a amlinellwyd yn y 'Strategaeth Dai Genedlaethol – ‘Gwella Bywydau a Chymunedau – Cartrefi yng Nghymru’ a’r Rhaglen Lywodraethu 2011-2016, sy’n amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ‘barhau i ddarparu cyllid ar gyfer tai fforddiadwy newydd yng Nghymru’.

Penawdau, datganiadau a bwletinau ystadegol

Llywodraeth Cymru – Tai 2012

Setiau Data

Mae setiau data manwl ar gael ar wefan StatsCymru.

Ffynonellau gwybodaeth eraill

Gwefan Cymunedau a Llywodraeth Leol: Cyflenwad tai fforddiadwy yn Lloegr: 2011-2012 (dolen allanol)

Gwefan Llywodraeth yr Alban: Tai fforddiadwy (dolen allanol)

Gwefan Adran ar gyfer Datblygiad Cymdeithasol: Bwletinau Tai Gogledd Iwerddon (dolen allanol)

 

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r union wybodaeth sydd ei hangen arnoch, e-bostiwch: stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Rydym yn annog adborth gan ein defnyddwyr; os oes gennych unrhyw sylwadau, cwblhewch ein ffurflen adborth.