Skip to content

Peryglon Dymchwel Tai

Gwybodaeth am nifer yr anheddau sy’n cael eu dymchwel a thai mewn amlfeddiannaeth a chyflwr eiddo preswyl sy’n cael eu hasesu gan awdurdodau lleol o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.

Mae’r System yn disodli’r safon addasrwydd blaenorol ym mis Mehefin 2006, gan ganolbwyntio’n hytrach ar iechyd a diogelwch yn hytrach na chyflwr eiddo y meddianwyr.  Caiff y risgiau a asesir eu sgorio ar raddfa ble mae’r risg mwyaf yn cael ei ddosbarthu fel perygl Categori 1 a’r risg lleiaf yn cael ei ddosbarthu fel perygl Categori 2.

Cafodd yr wybodaeth am ddymchweliadau a pheryglon a ddarparwyd gan awdurdodau lleol ei adolygu yn ystod 2009 ac yn dilyn ymgynghoriad, cyflwynwyd newidiadau i’r eitemau data a gesglir.

Caiff y data am ddymchwel tai, peryglon tai a HMOs ei gasglu gan awdurdodau lleol yn flynyddol.

Penawdau, datganiadau a bwletinau ystadegol

Tai a gafodd eu dymchwel a pheryglon mewn tai, 2011-12

Setiau Data

Ceir setiau data manwl ar wefan StatsCymru.

Ffynonellau gwybodaeth eraill

Dymchweliadau

Gwefan Cymunedau a Llywodraeth Leol: Cyflenwad net o dai yn Lloegr: 2009-2010 (dolen allanol)

Gwefan Llywodraeth yr Alban: Trosiadau eu Dymchwel (dolen allanol)

Gwefan Adran ar gyfer Datblygiad Cymdeithasol: Ystadegau Tai Gogledd Iwerddon (dolen allanol)

Peryglon

Gwefan Cymunedau a Llywodraeth Leol: Ystadegau peryglon ar gyfer Lloegr (dolen allanol)

Nid yw’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai yn berthnasol i’r Alban na Gogledd Iwerddon.

Os nad yw’n bosib i chi ddod o hyd i’r union wybodaeth rydych ei angen anfonwch e-bost at stats.housing@wales.gsi.gov.uk

Rydym yn annog adborth gan ein defnyddwyr, felly os oes gennych unrhyw sylwadau llenwch ein ffurflen adborth.