Skip to content

Ystadegau’r boblogaeth a’r cyfrifiad

Dolenni perthnasol

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys egwyddorion a phrosesau cyffredinol yn arwain at gyhoeddi ein hystadegau.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi gwybodaeth am ddemograffeg Cymru ar gyfer y cyfnod 1971 i 2009.
Rhestr o ddogfennau ystadegol a'r dyddiadau y bwriedir eu cyhoeddi.

Mae cryn ddiddordeb mewn data ynghylch y boblogaeth ac ymfudiad yng Nghymru. Mae'r tîm Ystadegau Demograffeg yn cynnig cyngor a dadansoddiadau ynghylch ystod eang o setiau data.

Caiff Amcangyfrifon o'r boblogaeth eu cyfrifo drwy gyfuno data ynghylch y genedigaethau a'r marwolaethau a gofrestrir gydag amcangyfrifon ynghylch llif ymfudiad rhyngwladol a mewnfudiad (o fewn y DU) er mwyn cyfrifo amcangyfrifon ynghylch poblogaeth arferol pob ardal ar 30 Mehefin bob blwyddyn.

Mae Amcanestyniadau poblogaeth yn amcanestyniadau sy'n seiliedig ar dueddiadau ac sy'n darparu amcangyfrifon ynghylch maint y boblogaeth yn y dyfodol. Maent yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch genedigaethau, marwolaethau ac ymfudiad.  

Mae amcangyfrifon ynghylch ymfudiad rhyngwladol ar gael (rhwng Cymru a thramor) ynghyd ag ymfudiad ar draws ffiniau (ymfudiad rhwng Cymru a Lloegr/DU) ac ymfudiad mewnol (pobl yn symud o fewn Cymru).

Mae Cofrestri Etholiadol yn dangos nifer y bobl sydd â'r hawl i bleidleisio o fewn ardal benodol.

Pwy yw'r defnyddwyr allweddol?

Defnyddwyr allweddol yr ystadegau ynghylch y boblogaeth ac ymfudiad yw:

  • Meysydd cynllunio a pholisi Llywodraeth Cymru
  • Cydweithwyr Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ym maes Cyllid Llywodraeth Leol
  • Staff eraill o fewn Cyfarwyddiaeth Ystadegol Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau o fewn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Ymchwilwyr ym maes Llywodraeth Leol, y GIG, y Parciau Cenedlaethol ynghyd ag ystod eang o sefydliadau eraill
  • Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Adrannau eraill y llywodraeth
  • Myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • Dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Ar gyfer beth y defnyddir y data?

Mae galw uchel am ystadegau ynghylch y boblogaeth ac ymfudiad ar gyfer gwahanol ddefnyddiau. Mae rhai o'r rhain yn cynnwys:

  • Fel rhan o setliad refeniw Cyllid Llywodraeth Leol
  • Gwasanaethau cynllunio ac amcangyfrif yr angen yn y dyfodol, e.e. ysgolion, gwasanaethau iechyd a chymdeithasol
  • Datblygu polisi
  • Ar gyfer cyfrifo ystadegau pellach e.e. Ardaloedd y Cynllun Gofodol, Amcangyfrifon ac Amcanestyniadau Tai
  • Fel enwaduron mewn cyfraddau (ee cyfraddau genedigaeth)
  • At ddibenion arolygon pwysoliad
  • Proffilio, cymariaethau a meincnodi daearyddol
  • Dadansoddi cohortau o'r boblogaeth a thueddiadau ymfudo

Adborth

Rydym yn croesawu adborth ynghylch ein hystadegau. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon Ebost at stats.popcensus@wales.gsi.gov.uk.