Skip to content

Ystadegau dlodi plant

Dolenni perthnasol

Mae'r cynllun hwn yn disgrifio prif amcanion ein hymrwymiad i atal tlodi, i helpu pobl i oresgyn tlodi ac i leddfu effaith tlodi.

Mae nifer o fesurau sy’n helpu i roi darlun cyflawn o dlodi ac amddifadedd plant. Mae’r dogfennau isod yn cyflwyno, yn dadansoddi ac yn esbonio data dangosol y mesurau hyn.

Dileu Tlodi Plant: Diweddariad Cerrig Milltir a Thargedau Tlodi Plant, Tachwedd 2010
Mae’r Bwletin Ystadegol ynghylch Tlodi Plant yng Nghymru yn cyflwyno ystadegau ynghylch y dangosyddion sy’n monitro cynnydd yn erbyn Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys data cenedlaethol ar gyfer y cyfnod hyd at ddechrau mis Tachwedd 2008.

Mae Rhaglen y Llywodraeth yn amlinellu yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud i wella bywydau pobl Cymru a sut byddwn yn mesur cynnydd, gan gynnwys y cynllun gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi. Bob blwyddyn, rydym yn adrodd ar set lawn o ddiweddariadau ar y cynnydd a wnaed ar yr ymrwymiadau a nodir yn y Rhaglen.

Ochr yn ochr ag adroddiadau blynyddol ar raglen y Llywodraeth, cyhoeddom gynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi ym mis Mehefin 2012. Rydym wedi ymrwymo i ddiweddaru ac adfywio'r cynllun gweithredu bob blwyddyn i roi golwg manwl ar y camau rydym ni a phartneriaid wedi eu cymryd i drechu tlodi.

Er mwyn symleiddio prosesau adrodd, rydym wrthi'n adolygu 'Dileu Tlodi Plant yng Nghymru: Dangosyddion Tlodi plant' gyda'r bwriad o symud llawer o'r wybodaeth i mewn i'r adroddiadau blynyddol ar y cynllun trechu tlodi. Disgwylir y diweddariad nesaf erbyn Mehefin 2013.

Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc 2008
Mae Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc 2008, sy’n seiliedig ar themâu o saith nod craidd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yn cynnwys ystadegau ac ymchwil o sawl ffynhonnell wahanol, gan adrodd ar ystod o ddangosyddion lles plant.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru: Mynegai Plant
Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru: Mynegai Plant yn mesur amddifadedd plant mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Dyma’r tro cyntaf i Fynegai Amddifadedd Lluosog Plant gael ei lunio yng Nghymru. Diben yr Ymgynghoriad ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru: Mynegai Plant yw cyflwyno canlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008: Mynegai Plant ac egluro'r dull cyffredinol a'r dewis o ddangosyddion er mwyn eu hadolygu'n feirniadol.

Os na allwch ddod o hyd i'r union wybodaeth sydd ei hangen arnoch anfonwch e-bost i'r cyfeiriad a ganlyn: stats.inclusion@wales.gsi.gov.uk