Skip to content

Crynodeb o’r sefyllfa yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Mae'r cyhoeddiad hwn yn gosod dangosyddion iechyd, addysg ac agweddau eraill o fywyd ochr yn ochr â ffigurau ar gyfer gwledydd eraill.
Map Cymru
Golwg gyffredinol ar Gymru o'r ystadegau a gyhoeddir gennym.

3.1 miliwn o bobl (canol 2011).1

Y prif ardaloedd trefol yw Caerdydd (346,100), Abertawe (239,000) a Chasnewydd (145,700).1

Mae gan tua 1 ym mhob 20 o boblogaeth y DU yn byw yng Nghymru.2

1.3 miliwn o aelwydydd (2011).3

Bron i 2.1 miliwn hectar yw cyfanswm arwynebedd tir Cymru, a chaiff 80 y cant ohono ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol.4

Y disgwyliad oes ar enedigaeth yng Nghymru yw 77.6 oed ar gyfer dynion ac 81.8 oed ar gyfer menywod (2008-10).5

Mae gan Gymru gyfran uwch o bobl dros 60 oed na gweddill y DU6, ac mae cyfran uwch o'r boblogaeth â salwch cyfyngus hirdymor.

Mae Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) yn amcangyfrif gweithgarwch economaidd ardal benodol. £47.3 biliwn oedd y GYC yng Nghymru yn 2011. Fesul pen o'r boblogaeth, mae hyn o gwympas llai na thri chwarter cyfartaledd y DU (heb gynnwys y tu allan i'r rhanbarthau) (75.2 y cant).6

Roedd 1.74 miliwn o gerbydau ffordd trwyddedig yng Nghymru yn 2011.7

Cafodd 50 y cant o wastraff trefol ei baratoi ar gyfer ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio yn y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Mehefin 2012.8

Ym mis Ionawr 2012, roedd 1,698 o ysgolion a gynhelir, a dros 466,000 o ddisgyblion. Mae mwy na 500 o ysgolion yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.9

Roedd bron i 131,000 o bobl ifanc wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2010/11.10

Roedd 8.9 miliwn o ddefaid ac ŵyn yn 2012.11

Ganwyd bron i 35,600 o fabanod yn 2011.12

Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi gostwng 69 y cant rhwng 1990 a 2010.13

Mae tua phumed o boblogaeth Cymru yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.14

Yn 2011, bu twristiaid o rannau eraill o’r DU ar 9.7 miliwn o deithiau domestig i Gymru.15

Ffynonellau data

  1. Amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth ar gyfer 2011
  2. Poblogaeth Cymru trosolwg demograffig 2010  
  3. Cyfrifiad 2011: Canlyniadau Cyntaf Cymru 
  4. Ystadegau amaethyddol Cymru 2009
  5. Disgwyliad oes, 2008-10
  6. Gwerth ychwanegol crynswth rhanbarthol a gwerth ychwanegol crynswth isranbarthol ar gyfer, 2011
  7. Trwyddedu a pherchenogaeth cerbydau, 2011 
  8. Awdurdodau lleol rheoli gwastraff trefol, Ebrill i Mehefin 2012
  9. Cyfrifiad Ysgolion, 2012
  10. Myfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch, 2010/11 
  11. Arolwg amaethyddol a garddwrol, Mehefin 2012
  12. Ystadegau bywyd, 2011
  13. Rhestrau Ddatganoledig Gweinyddiaeth Nwy Tŷ Gwydr (GHG), 1990-2010
  14. Gwefan StatsCymru: Yr Iaith Gymraeg (dolen allanol)
  15. Ystadegau twristiaeth