Skip to content

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2008 yn fesur o amddifadedd lluosog ar lefel ardal fach. Cafodd trydydd rhifyn Mynegai Amddifadedd Llosog Cymru ei gyhoeddi yng Ngorffennaf 2008 ac fe ddisodlodd WIMD 2005.

Lawrlwythio MALlC

Mae'r set data gyflawn MALlC, rhengoedd parth MALlC, a data dangosyddion sylfaenol ar gael oddi ar wefan StatsWales.

Cyhoeddiadau

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008: Adroddiad Cryno - Diwygiedig ar 20 Rhagfyr 2011
Mae'r adroddiad yma yn rhoi dadansoddiad cryno ar gyfer y Mynegai cyffredinol a phob un o'r wyth maes yn y Mynegai gan gynnwys, ar gyfer pob maes, map yn dangos yr amrywiaeth ar draws Cymru a thabl o'r canlyniadau ar gyfer yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is (ACEI) yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Nodyn diwygio

Yn ystod cynhyrchu rhifyn 2011 MALlC, canfuwyd camgymeriad ym maes incwm MALlC 2008. Mae hyn oherwydd cafodd plant dibynnol y rhai sy’n hawlio budd-daliadau sy’n ymwneud ag incwm Adran Gwaith a Phensiynau eu hepgor yn anghywir o’r dangosydd yn 2008.

Cywirwyd dangosyddion incwm 2008 ac fe’u hail-gyhoeddwyd ar StatsWales ym mis Tachwedd 2011. Ar gyfartaledd, roedd y gwerthoedd incwm 20 y cant yn uwch na’r gwerthoedd a gyhoeddwyd yn wreiddiol. Gwnaethwyd y newidiadau i’r maes incwm a’r graddfeydd Mynegai ar StatsWales ac i'r Adroddiad Cryno o MALIC 2008 ar 20 Rhagfyr 2011. Cyhoeddwyd adroddiad yn darparu dadansoddiad o'r diwygiadau i'r Mynegai cyffredinol a safleoedd maes Incwm ar 28 Mehefin 2012.

Hefyd, fe nodwyd gwall yn nhri o ddangosyddion addysg 2008 (cyfraddau absenoldeb cynradd, cyfraddau absenoldeb uwchradd a chanran yr oedolion 25-64 oed heb gymwysterau). Nid yw hyn yn effeithio ar y maes addysg, y mynegai cyffredinol na gwerthoedd dangosyddion LSOA, gan i’r gwall ddigwydd yn y broses agregu, sy’n cyfrifo dangosyddion ar lefelau agregu amrywiol, e.e. awdurdod lleol, MSOA. I grynhoi, mae’r tri cyfradd dangosyddion hyn wedi gostwng o ganlyniad i gywiro’r gwall. Mae’r graddau y mae’r cyfraddau dangosyddion wedi gostwng yn amrywio yn ôl lefel agregu; y lefelau agregu uwch (megis awdurdodau lleol a dosbarthiad trefol/gwledig) sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf. Mewn cyferbyniad, roedd y diwygiadau i’r partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf yn gymharol fach. O’r tri dangosydd anghywir, y newid i’r dangosydd “heb gymwysterau” yw’r mwyaf.

Cywirwyd dangosyddion addysg 2008 ac fe’u hail-gyhoeddwyd ar StatsWales ym mis Tachwedd 2011.

Ym mis Mawrth 2011, canfuwyd camgymeriad ym maes diogelwch cymunedol MALlC 2008. O ganlyniad, diwygiwyd sgorau a safleoedd yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen-Is (LSOA) yn y maes diogelwch cymunedol ar 29 Mawrth 2011. Bu ychydig o newid i sgorau a safleoedd cyffredinol Malc oherwydd y newid hwn yn safleoedd y LSOA yn y maes diogelwch cymunedol, a chafodd y rhain eu diwygio ar yr un diwrnod.

Ym mis Gorffennaf 2010, canfuwyd camgymeriad ym maes amgylchedd ffisegol Malc 2008. O ganlyniad, diwygiwyd sgorau a safleoedd yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen-Is (LSOA) yn y maes amgylchedd ffisegol ar 13 Gorffennaf 2010. Bu ychydig o newid i sgorau a safleoedd cyffredinol Malc oherwydd y newid hwn yn safleoedd y LSOA yn y maes amgylchedd ffisegol, a chafodd y rhain eu diwygio ar yr un diwrnod.

Manylion y diwygiadau i'r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 

Canllawiau

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008: Adroddiad Technegol
Mae’r adroddiad technegol yma, a gyhoeddwyd ar y 19 Mawrth 2009, yn disgrifio sut cafodd y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2008 ei greu. Rhestrir y meysydd amddifadedd, ynghyd â’r dangosyddion o fewn pob maes, a nodir yr unedau daearyddol a ddefnyddiwyd. Mae’r adroddiad hefyd yn egluro’r algorithmau ystadegol a ddefnyddiwyd i greu’r mynegai o’r cydrannau yma.

Adroddiad Ansawdd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008

Penderfynu pwysau'r meysydd yn Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Crynodeb o newidiadau methodolegol yn Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008: Cwestiynau cyffredin

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008: Taflen Gyfarwyddyd

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008: tabl am-edrych sy'n pwysoli codau post i ardaloedd cynnyrch ehangach lefel is

Mapiau Rhyngweithiol

Mae’r ddolen i’r mapiau rhyngweithiol ar gyfer MALlC 2008 wedi cael ei dynnu i ffwrdd yn dilyn canfod camgymeriad ym maes amgylchedd ffisegol MALlC 2008, sydd hefyd wedi effeithio safleoedd cyffredinol MALlC. Bydd mapiau a dadansoddiad pellach yn rhan o’n tudalennau gwe dadansoddi cynhwysfawr, sydd wrthi’n cael eu datblygu.