Skip to content

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011

Dyma’r mesur swyddogol o amddifadedd perthnasol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae MALlC 2011 yn diweddaru Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2008.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru: Data Dangosyddion - Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011: Canllawiau Defnyddio
Mae’r ddogfen fer hon yn cynnig canllawiau ar MALlC, sut y cafodd ei greu a sut i’w ddefnyddio.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011: Tablau StatsWales
Mynediad at set ddata gyfan MALlC ar StatsWales, gan gynnwys tabl am-edrych ar gyfer codau post a LSOAs. Cyhoeddwyd dangosyddion amgylchedd ffisegol ar gyfer 2011, a oedd ar gael yn flaenorol ar lefel LSOA yn unig, wedi eu cyfansymu i lefel awdurdod lleol, Cymunedau'n Gyntaf  a grŵp degradd amddifadedd ar 28 Mehefin 2012.

Nodiadau adolygu

  • Cafodd gwall ei ddarganfod yn nangosyddion 2011, sydd yn effeithio ar y gyfradd marwolaethau (safonedig fesul 100,000 o'r boblogaeth). Ni effeithiodd hyn ar y maes iechyd, y prif fynegai na gwerthoedd dangosyddion Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA), dim ond y dangosyddion hynny ar lefelau agregedig uwch. Cafodd y ffigyrau eu cywirio ar y 12fed o Rhagfyr 2011.
  • Cafodd gwall bach ei ddarganfod yn nangosyddion 2011, sydd ond yn effeithio cyfraddau troseddu ieuenctid ac oedolion. Ni effeithiodd hyn ar y maes diogelwch cymunedol, y prif fynegai na gwerthoedd dangosyddion Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA), dim ond y dangosyddion hynny ar lefelau agregedig uwch. Cyhoeddwyd y ffigurau wedi eu cywiro ar y 22 o Dachwedd 2011.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011: Adroddiad Cryno
Mae hwn yn cynnwys crynodeb o MALlC 2011, dadansoddiad awdurdodau lleol, canllawiau ar sut i lawrlwytho a defnyddio MALlC, crynodeb o newidiadau methodolegol; rhestr o ddangosyddion a ddefnyddiwyd i greu MALlC 2011.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011: Adroddiad Technegol

Mae’r adroddiad technegol yma, a gyhoeddwyd ar y 22 Rhagfyr 2011, yn disgrifio sut cafodd y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2011 ei greu. Rhestrir y meysydd amddifadedd, ynghyd â’r dangosyddion o fewn pob maes, a nodir yr unedau daearyddol a ddefnyddiwyd. Mae’r adroddiad hefyd yn egluro’r algorithmau ystadegol a ddefnyddiwyd i greu’r mynegai o’r cydrannau yma.

Mae sgorau meysydd unigol a sgorau cyffredinol y mynegai ar gyfer pob LSOA wedi eu cynnwys.

Crynodeb o newidiadau methodolegol Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011: Adroddiad Ansawdd
Asesiad o ansawdd MALlC a’r meysydd.

Penderfynu pwysau meysydd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru