Skip to content

Dinas a Sir Abertawe: Model o Awdurdod ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

Dolenni perthnasol

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 18 Gorffennaf 2012.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Cyflwynodd Cyngor Abertawe eu hastudiaeth achos datblygu cynaliadwy yn lansiad ymgynghoriad y Bil Datblygu Cynaliadwy.

Dinas a sir arfordirol yw Abertawe. Wedi ei lleoli ar draethau euraidd De Orllewin Cymru, mae’r ardal yn cynnwys Penrhyn Gŵyr ac Ucheldir Lliw. Abertawe yw’r ail ddinas fwyaf poblog yng Nghymru yn dilyn Caerdydd a’r drydedd sir fwyaf poblog ar ôl Caerdydd a Rhondda Cynon Taf.

Mae’r adroddiad cyflwyno hwn ar eu cynnydd ym maes datblygu cynaliadwy yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:  

  • Amcanion;
  • Datblygu cynaliadwy fel prif egwyddor drefniadol;
  • Dull;
  • Diffinio datblygu cynaliadwy;
  • Disgrifiad o beth yw ‘da’;
  • Cynnydd mewn rheoli amgylcheddol;
  • Hyfforddiant ac ymwybyddiaeth;
  • Y gadwyn gyflenwi a chaffael;
  • Buddion cymunedol; a
  • Beth mae da yn ei olygu i ni.