Skip to content

Arolwg Effeithiolrwydd o’r Cynllun Datblygu Cynaliadwy

Dolenni perthnasol

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.
Cafodd y Strategaeth ei gyhoeddi ym mis Hydref 2010.
Mae'n cefnogi ein hymrwymiadau i leihau'r newid yn yr hinsawdd, helpu i ddileu tlodi tanwydd a rhoi hwb i ddatblygu economi Cymru ac adfywio'r wlad.
John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Dyma brif strategaeth gwastraff Cymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Wedi pob etholiad ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gynnal arolwg o effeithiolrwydd eu Cynllun Datblygu Cynaliadwy.

Mae gan Weinidogion ddyletswydd i wneud hyn o dan adran 79 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Rydyn ni wedi cyhoeddi’r adroddiad hwn yn dilyn arolwg annibynnol a gyflwynwyd gan PwC.  

Prif bwyntiau

Mae’r prif bwyntiau sydd wedi’u hamlygu yn yr adroddiad yn cynnwys:  

  • Y datblygiadau positif rydyn ni wedi’u gwneud wrth sicrhau datblygu cynaliadwy ledled Cymru, a’n parodrwydd i fynd i’r afael â’r heriau o’n blaenau;

  • Enghreifftiau o ble y mae egwyddorion datblygu cynaliadwy wedi’u defnyddio’n effeithiol drwy ein polisïau, gan gynnwys: 
    • Strategaeth Newid Hinsawdd; 
    • Arbed, rhaglen buddsoddi perfformiad ynni strategol; 
    • Rhaglen Adnewyddu Economaidd; 
    • Ein Dyfodol Iach, ein cynllun strategol ar gyfer iechyd; 
    • Rhaglen ysgolion y 21ain ganrif; 
    • Strategaeth Tlodi Plant; a 
    • Strategaeth Fwyd i Gymru.

  • Gwaith a wnaethpwyd i gysylltu yn allanol ar ddatblygu cynaliadwy trwy ein Siarter Datblygu Cynaliadwy. Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd da gyda’n gweithrediadau mewnol trwy gyrraedd lefel 5 safon rheoli amgylchedd y Ddraig Werdd; a 

  • Dilysrwydd cyffredinol ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy presennol, Un Gymru: Un Blaned.  

Gwnaeth ein Gweinidog ddatganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyhoeddi’r adroddiad hwn.