Skip to content

Y Bil Datblygu Cynaliadwy: helpu i lunio dyfodol gwell i Gymru

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth ynghylch: cefndir yr ymgynghoriad papur gwyn, cynnydd a digwyddiadau’r ymgynghoriad.
Ymgynghoriad ar ein cynlluniau i roi dyletswydd ar sefydliadau dethol a chreu corff datblygu cynaliadwy newydd.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rydym wedi lansio Papur Gwyn ar gynigion ar gyfer y Bil Datblygu Cynaliadwy, sy’n rhan allweddol o’n rhaglen ddeddfwriaethol.

Mae cynaliadwyedd wrth wraidd agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru; hefyd mae wrth wraidd y rhaglen ddeddfwriaethol hon. Yn ei gyfanrwydd, bydd yn hybu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, a gwella ansawdd bywyd pobl yng Nghymru. Mae’n ymwneud â diffinio llwybr datblygu hirdymor ar gyfer ein cenedl. Mae’n golygu pobl iach, gynhyrchiol; cymunedau bywiog, cynhwysol; amgylchedd amrywiol a chadarn ac economi blaengar ac arloesol. Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol hon yn darparu pwerau, dyletswyddau a gallu sefydliadol newydd i hyrwyddo ein hamcanion o ran adeiladu Cymru gynaliadwy.

Y Prif Weinidog, 12 Gorffennaf 2011, Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru 2011-16

Bydd y Bil Datblygu Cynaliadwy yn rhoi dyletswydd ar sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau mai Datblygu Cynaliadwy yw eu hegwyddor drefniadol ganolog. Caiff corff Datblygu Cynaliadwy annibynnol hefyd ei sefydlu yn sgil y Bil, i ddarparu cefnogaeth ynghylch datblygu cynaliadwy er mwyn adlewyrchu buddion ac anghenion Cymru.

Defnyddiwyd yr wybodaeth a ddaeth yn sgil sesiynau ymgysylltu ac ymgynghori i lunio a datblygu’r Papur Gwyn. Rydym bellach yn eich gwahodd i fynegi eich barn ar y cynigion yn y Papur Gwyn.

Mae’r Papur Gwyn ar gael o dan ddolenni cysylltiedig ar yr ochr dde. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 4 Mawrth 2013.

Cafodd cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori eu cynnal ledled Cymru. Atodir isod copi o becyn adnoddau os hoffech roi cyflwyniad am y Bil i'ch cydweithwyr.