Skip to content

Y Siarter Datblygu Cynaliadwy

Dolenni perthnasol

Cofrestrwch i ddangos ymrwymiad eich sefydliad i ddatblygu cynaliadwy.
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Byddwn yn defnyddio'n Siarter Datblygu Cynaliadwy i annog a galluogi cyrff yng Nghymru i fod yn fwy cynaliadwy.

Mae’r Siarter:

  • yn pennu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy;
  • yn cysylltu’r brif egwyddor drefniadol i sicrhau lles hirdymor pobl a chymunedau Cymru;
  • yn disgrifio’r manteision o drin Datblygu Cynaliadwy fel prif egwyddor drefniadol eich sefydliad;
  • yn pennu’r ymrwymiad yr ydych yn ei wneud drwy gofrestru;
  • yn esbonio’r camau nesaf y byddwn yn eu cymryd i gefnogi’r Siarter.

Cofrestru ar gyfer y siarter

Rydym wedi rhoi cefnogaeth a chyngor i sefydliadau. Gwahoddir aelodau o’r Siarter i ddigwyddiad blynyddol i rannu’u profiadau a’r hyn a ddysgwyd gydag eraill ac i arddangos yr enghreifftiau o arferion gorau yn eu gwaith.

Os yw eich sefydliad yn dymuno cofrestru ar gyfer y Siarter Datblygu Cynaliadwy, gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein sydd ar y dde.

Cefnogir rhwydwaith y Siarter gan Grwp ar LinkedIn a thudalennau we Cynnal Cymru:

Ewch i: Grwp LinkedIn y Siarter Datblygu Cynaliadwy (dolen allanol, Saesneg yn unig)

Ewch i: Tudalennau we Cynnal Cymru ar gyfer y Siarter Datblygu Cynaliadwy (dolen allanol)