Skip to content

Astudiaethau twristiaeth gysylltiedig

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae'r adran hon yn cynnwys astudiaethau twristiaeth cysylltiedig diweddar, wedi eu ariannu'n rhanol gan Croeso Cymru

Mae Partneriaeth Gwerthfawrogi ein Hamgylchedd yn cydweithio i ddod o hyd i dystiolaeth economaidd gadarn bod yr amgylchedd yn hanfodol i ffyniant Cymru. Dros y ddegawd diwethaf, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi bod yn arwain y gwaith mewn cydweithrediad â phartneriaid craidd:

  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru,
  • Asiantaeth yr Amgylchedd,
  • Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac adrannau
  • Llywodraeth Cymru, yn arbennig Croeso Cymru ac Adran yr Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth..

Yn 2010, comisiynwyd ECOTEC Research and Consulting Ltd gan y Bartneriaeth Gwerthfawrogi ein Hamgylchedd i wneud gwaith ymchwil er mwyn rhoi gwerth ar amgylchedd hanesyddol Cymru; a hynny yn nhermau economaidd pur ac yn yr ystyr ehangach, sef ei werth cymdeithasol. Roedd y gwaith ymchwil hefyd yn cynnwys datblygu fframwaith monitro a gynigodd fethodoleg gyson i bartneriaid yn y sector fynd ati i gasglu data yn barhaus.