Skip to content

Twristiaeth gynaliadwy

Dolenni perthnasol

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gynaliadwy.
Cefnogaeth a chyngor ar sut y gall y diwydiant twristiaeth yng Nghymru ddod yn fwy cynaliadwy.

Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig yng Nghymru. Er mwyn iddi fod yn gynaliadwy, rhaid inni sicrhau ein bod yn ystyried anghenion hirdymor cymunedau, ymwelwyr a’r amgylchedd. Diben yr adran hon yw rhoi cefnogaeth a chyngor ar sut y gall y diwydiant twristiaeth yng Nghymru ddod yn fwy cynaliadwy. Byddwn hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am fentrau twristiaeth gynaliadwy, yn ogystal ag egluro sut y gallwch chi gymryd rhan. 

Yn ôl Sefydliad Twristiaeth y Byd, twristiaeth gynaliadwy yw:

Twristiaeth sy’n diwallu anghenion twristiaid heddiw, yn ogystal â’r ardaloedd sy’n eu croesawu, ac yn diogelu a gwella cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Mae twristiaeth yn dibynnu ar uniondeb yr amgylchedd naturiol. Mae’r tirweddau a’r arfordiroedd prydferth wrth graidd twristiaeth yng Nghymru.

 

Ond, mae twristiaeth gynaliadwy yn golygu mwy na bod yn ‘wyrdd’. Y gwahaniaeth rhwng ecodwristiaeth, neu dwristiaeth werdd, a thwristiaeth gynaliadwy yw bod twristiaeth gynaliadwy yn mynd i’r afael â materion cymdeithasol, diwylliannol, economaidd, ac amgylcheddol.

 

I fod yn gynaliadwy, rhaid ystyried anghenion ac ansawdd bywyd cymunedau lleol wrth ddatblygu twristiaeth. Rhaid hefyd gwella a pharchu diwylliannau a thraddodiadau lleol, gwneud cyfraniad i lewyrch economaidd lleol, yn ogystal â sicrhau bod cyn lleied o niwed â phosibl yn cael ei achosi i’r amgylchedd.