Skip to content

Cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth

Dolenni perthnasol

Mae'r strategaeth twristiaeth genedlaethol yn trafod materion fel cynaliadwyedd, ansawdd, cystadleurwydd a phartneriaeth o fewn y diwydiant twristiaeth.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Llun mewnol o ystafell wely

Dyma fanylion y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth gan cynnwys gwybodaeth am y meini prawf a sut i wneud cais.

Mae Croeso Cymru wedi llunio strategaeth fframwaith er mwyn datblygu’r diwydiant ymwelwyr yng Nghymru. Mae’r strategaeth hon, ‘Cyflawni ein Potensial’ yn cyflwyno gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.  Mae’r weledigaeth yn seiliedig ar ddiwydiant arloesol, cynaliadwy a phroffidiol sy’n canolbwyntio mwy ar gwsmeriaid. Er mwyn helpu’r diwydiant i wireddu hyn, gallwn gynnig cymorth ariannol i weithredwyr/datblygwyr twristiaeth sy’n buddsoddi yn unol â’n blaenoriaethau datblygu ac sy’n bodloni ein meini prawf cymhwysedd.

Mae’r cynllun buddsoddi mewn twristiaeth ar agor i fusesau sy’n bodoli eisioes a busnesau twristiaeth newydd.  Mae cymorth ar gael i uwchraddio ansawdd cyfleusterau, a cynyddu y niferoedd lle mae blwch yn y farchnad. Rydym hefyd yn annog busnesau i ddangos sut bydd agweddau penodol ar y cynllun uwchraddio arfaethedig o fudd uniongyrchol o safbwynt effeithlonrwydd ynni neu wella’r amgylchedd.  

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun buddsoddi ar gael drwy lawrlwytho y ddogfen gyfarwyddyd isod.

Os ydych yn credu bod eich cynnig yn gymwys, unwaith y byddwch wedi darllen y nodiadau cynllun buddsoddi, gallwch wneud cais ar-lein drwy lenwi holiadur rhagarweiniol, neu islwytho copi caled isod.

I ofyn am gopïau caled o'r nodiadau a holiadur cyflwyniadol, ffoniwch 0845 010 8020 neu anfonwch e-bost:

tiss@wales.gsi.gov.uk