Skip to content

Strategaeth buddsoddi mewn twristiaeth

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Diben y strategaeth buddsoddi mewn twristiaeth yw creu fframwaith i flaenoriaethu buddsoddiadau yn y diwydiant twristiaeth.

Ffocws y strategaeth yw nodi rhaglenni gwaith sydd â’r nod o hyrwyddo cyfleoedd i fuddsoddi mewn twristiaeth gynaliadwy ar gyfer Croeso Cymru. Mae’r angen am strategaeth o’r fath wedi’i nodi fel cam allweddol yn ‘Cyflawni ein Potensial’.

Bydd y strategaeth ar waith rhwng 2008 a 2013, a bwriedir iddi fod yn ddogfen organig sy’n cael ei hadolygu a’i diweddaru’n barhaus. Bydd llwyddiant y strategaeth yn dibynnu ar ymrwymiad parhaus i’w gweithredu, ei monitro, ei hadolygu, ei diweddaru a’i mireinio yn unol ag anghenion y farchnad.

Mae dogfen flaenoriaethau’r sector twristiaeth yn cynnig amlinelliad cryno o flaenoriaethau buddsoddi allweddol y sector twristiaeth. Daethpwyd i’r casgliadau hyn trwy ymchwilio i dueddiadau presennol, maint a phroffil ansoddol y sectorau, a buddsoddiad hanesyddol Croeso Cymru yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Mae copiau o’r dogfennau yma ar gael i’w lawllwytho isod.