Skip to content

Trafnidiaeth

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Trafnidiaeth

Dau feic yn pwyso ar ei gilydd ar draeth tywod

Mae pawb yn defnyddio rhyw fath ar drafnidiaeth yn eu bywydau.

Boed yn drafnidiaeth gyhoeddus, teithio mewn car, awyren neu drên rhaid cynllunio, adeiladu, cynnal a chadw a gwella'r gwasanaethau hyn.

Mae creu system drafnidiaeth o'r radd flaenaf ar gyfer yr 21ain ganrif sy'n darparu cludiant fforddiadwy, sy'n garedig i'r amgylchedd ar ffyrdd, rheilffyrdd ac ar awyrennau i gael mynediad busnes i farchnadoedd, a theithio personol fel cymudo yn un o'n hymrwymiadau yn Cymru'n Un.

Rydyn ni'n gweithredu polisïau trafnidiaeth ac yn cyflawni rhaglenni buddsoddi mewn trafnidiaeth.  Mae'r rheini'n cynnwys:

  • rheoli, cynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru
  • rôl rheoli cleient Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a chyflawni prosiectau seilwaith rheilffyrdd
  • gweithredu amryw o fentrau a chynlluniau grant a ddyluniwyd i wella'r gwasanaethau trafnidiaeth yng Nghymru.

Cewch yma wybodaeth am ffyrdd a rheilffyrdd, diogelwch ffyrdd, cerdded a beicio a thrafnidiaeth gynaliadwy a gallwch weld Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

Ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar ddau gynnig cynnar i estyn y Cynllun Bathodyn Glas ar gyfer

Dolenni perthnasol

Mae'r ddogfen hwn yn y Fframwaith Trafnidiaeth Cymru.
Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn nodi manylion ynghylch sut mae cyflawni Strategaeth Drafnidiaeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf.
Mae gyrru dan ddylanwad cyffuriau, boed feddygol neu anghyfreithlon, yn fater difrifol.
Yn cynnwys data yn ôl math o ddefnyddwyr ffyrdd a difrifoldeb y damweiniau.