Skip to content

Tanwyddau amgen

Dolenni perthnasol

Dyma'r adroddiad terfynol o astudiaeth o'r 'Manteision a'r rhwystrau posib o hybu defnydd o danwyddau amgen ar gyfer cerbydau'r ffordd yng Nghymru'.
Bydd Cymru yn chwarae rhan ganolog yn ymgyrch y DU gyfan i ddatblygu hydrogen fel tanwydd cynaliadwy, gwyrdd a glân ar gyfer y dyfodol.
Y polisïau a’r gwaith y byddwn yn ei wneud i’n helpu i greu economi gynaliadwy, carbon isel ar gyfer Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo tanwydd a cherbydau glanach yng Nghymru, ac annog pob i’w defnyddio, gan wella ansawdd yr awyr a lleihau gollyngiadau niweidiol.

Tanwyddau amgen ar gyfer trafnidiaeth ffyrdd sydd eisoes yn cael eu defnyddio yn lle petrol neu ddiesel confensiynol neu a allai gael eu defnyddio at y diben hwnnw.

Mae nifer fawr o gyfuniadau o danwyddau posibl allai gael eu cynhyrchu at y dyfodol o nifer o wahanol ffynonellau o ynni a'u defnyddio mewn gwahanol fathau o beiriannau.

Gall fod nifer o fanteision o hyrwyddo tanwyddau amgen i'w defnyddio mewn cerbydau ar y ffyrdd yng Nghymru, er enghraifft:

  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn arbennig CO2 ;
  • gwella ansawdd yr aer;
  • lleihau effeithiau sŵn;
  • hybu cynaliadwyedd;
  • hybu hunangynhaliaeth;
  • datblygu gwybodaeth;
  • meithrin datblygu economaidd.

O'r dudalen hon gallwch gael hyd i'r adroddiad ar y manteision o hybu defnyddio tanwyddau amgen yng Nghymru a'r rhwystrau i'w defnyddio a'r astudiaeth ar y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â'r seilwaith o danwyddau amgen sydd ar gael yng Nghymru. Nod yr adroddiadau hyn yw helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth gyffredinol i hyrwyddo tanwyddau amgen yng Nghymru ac annog mwy i'w defnyddio.

O dan y Cynllun Gweithredu ar Ddatblygu Cynaliadwy y cytunwyd arno ym mis Hydref 2004, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal prosiect i ymchwilio i'r manteision o hyrwyddo defnyddio tanwyddau amgen yng Nghymru a'r rhwystrau i'w defnyddio, megis biodanwydd, bionwy, nwy naturiol a hydrogen.