Skip to content

Gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr

Dolenni perthnasol

Canllaw i Ymgeiswyr yng Nghymru.
Mae'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn darparu ystod eang o wasanaethau.
Y meini prawf cymhwysedd ar gyfer gwneud cais am Fathodyn Glas.

Gallwch wneud cais i’ch Awdurdod Lleol am Fathodyn Glas neu wneud cais ar-lein ar wefan Direct Gov.

Gallech fod yn gymwys am fathodyn:

  • os yw eich Offthalmolegydd Ymgynghorol wedi llofnodi Tystysgrif Nam ar y Golwg ar eich cyfer a'ch bod yn cyflwyno'r dysgysgrif hon gyda'ch cais 
  • os oes gennych anabledd parhaol a sylweddol sy'n golygu nad ydych yn gallu cerdded neu'ch bod yn cael anhawster mawr i gerdded;
  • os ydych yn gallu darparu llythyr diweddar oddi wrth y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn dangos eich bod yn derbyn cyfradd uwch Elfen Symudedd Lwfans Byw i'r Anabl. Os ydych wedi colli'r llythyr hwn, gallwch gael copi arall drwy wefan Direct Gov;
  • os ydych gallu darparu llythyr oddi wrth Asiantaeth y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr yn dangos eich bod yn yn derbyn Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel neu daliad gwarantedig o dan dariffau 1-8 o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog ac mai canlyniad asesiad yw bod gennych anabledd parhaol a sylweddol sy'n golygu nad ydych yn gallu cerdded neu'ch bod yn cael anhawster mawr i gerdded. Os ydych wedi'i golli, gallwch ffonio'r llinell ymholiadau rhad ac am ddim 0800 1692277; 
  • os oes gennych anabledd difrifol yn y ddwy fraich, a'ch bod yn gyrru cerbyd modur yn rheolaidd ond nad ydych yn gallu defnyddio meteri parcio ac offer tebyg neu eich bod yn ei chael hi'n anodd eu defnyddio;
  • os oes gennych blentyn dan dair oed y mae arno gyflwr meddygol penodol sy’n golygu bod yn rhaid cario offer meddygol swmpus wrth deithio neu bod yn rhaid aros yn agos i gerbyd er mwyn iddo allu cael triniaeth feddygol frys.