Skip to content

Teithio gan Ddysgwyr

Dolenni perthnasol

Bydd yn rhaid bod gwregys diogelwch wedi'i ffitio i bob sedd deithiwr ar fysiau a ddefnyddir fel cludiant penodedig i ddysgwyr o 1 Hydref 2014 ymlaen.
Mae'r canllawiau hyn yn disgrifio dehongliad Llywodraeth Cymru o'r gyfraith ynghylch cludiant i'r ysgol ac mae'n amlinellu sut y dylai awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol.
Cyhoeddir y canllawiau hyn o dan adran 15 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mae’n cynnwys canllawiau statudol ar y Cod Ymddygiad wrth Deithio.
Datblygwyd y canllawiau hyn i gynorthwyo awdurdodau lleol a gweithredwyr I wneud asesiadau risg ar gludiant rhwng cartref ac ysgol.
Arwydd ffordd 'plant yn croesi' ar gefndir melyn.
Rydym yn ceisio sicrhau bod teithio yn effeithiol ac yn ddiogel i ddysgwyr. Yma ceir gwybodaeth ynghylch ein polisïau a'n gweithdrefnau yn y maes hwn.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith i geisio gwella cludiant i’r ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Roedd Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn pennu’r polisi cludiant i’r ysgol ar gyfer Cymru. Roedd yn cynnwys sicrhau gwelliannau i ddysgwyr drwy ehangu’r hawl i blant ifanc gael eu cludo, gan sicrhau bod cludiant am ddim i blant ysgol gynradd os ydynt yn byw ddwy filltir neu fwy o’r ysgol addas agosaf.

Roedd y mesur hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru lunio’r Cod cyntaf erioed ar Ymddygiad wrth Deithio i Gymru gyfan (y Cod Teithio). Mae’n pennu’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan bob dysgwr wrth iddynt deithio’n ôl a blaen i’w hysgol neu goleg.

Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011

Mae Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno safonau diogelwch penodol ar gyfer gwasanaethau cludiant i’r ysgol penodedig. Mae hyn yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno hyfforddiant penodol i yrwyr, offer teledu cylch cyfyng, hebryngwyr ac asesiadau risg gorfodol.

Fel rhan o’r Mesur hwn, bydd gwregysau diogelwch yn dod yn orfodol ar bob bws ysgol ym mis Hydref 2014.

Defnyddiwch y dolenni ar y dudalen hon i weld canllawiau gweithredol ar gludiant i’r ysgol, asesiadau risg a’r Cod Teithio.

Prosiectau Cludiant Cartref i'r Ysgol  

Yn 2008/09, neilltuodd Llywodraeth Cymru arian grant i’w gynnig i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ar gyfer nifer o brosiectau awdurdodau lleol. Roedd y prosiectau hyn yn gweithredu syniadau arloesol i wella cludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar draws Cymru. Cyfanswm y grant oedd £1,000,000 y flwyddyn dros gyfnod o dair blynedd.  

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau arloesol hyn, ewch i wefan CLlLC.