Skip to content

Canllawiau i'r Cynllun Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol

Mae'r canllwiau hyn yn berthnasol i'r cynllun Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol ar gyfer 2011-12.

Bydd y cynllun Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol yn galluogi awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau bws atodol ynghyd â gwasanaethau trafnidiaeth lleol eraill. Cyfanswm y grant sydd ar gael ar gyfer yr awdurdodau lleol yw £11,000,000 ac ni fydd yn cael ei gyfrif fel rhan o ofynion yr awdurdod o ran y gyllideb at ddibenion capio.

Mae'r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Leol yn galluogi'r Awdurdodau Lleol i dalu am amrywiaeth o wahanol fentrau trafnidiaeth.  Gellir defnyddio'r grant i wella cynlluniau trafnidiaeth presennol, cyflwyno gwasanaethau newydd, ariannu gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol a'u rhoi ar waith, gwneud gwaith cyfalaf fel atgyweirio arosfannau bysiau, gwella gwybodaeth am drafnidiaeth a phrynu bysiau sydd â llawr isel i'w gwneud yn haws i deithwyr ddefnyddio'r gwasanaethau.

Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r dyraniad perthnasol ar gyfer pob Awdurdod Lleol

Y swm sy'n daladwy i'r awdurdodau yn 2011-12 mewn £

SEWTA*

 
Blaenau Gwent 186,717
Pen-y-bont ar Ogwr 473,692

Caerffili

506,882
Caerdydd

778,010

Merthyr Tudful 182,300
Sir Fynwy 412,572
Casnewydd 401,582

Rhondda Cynon Taf

720,549
Tor-faen 284,910
Bro Morgannwg 451,191
 

Is-gyfanswm 4,398,405

   

SWWITCH

 
Sir Gaerfyrddin 918,824
Castell-nedd Port Talbot 539,843
Sir Benfro

537,424

Abertawe 638,701
 

Is-gyfanswm 2,634,792

   

TAITH

 
Conwy 401,588
Sir Ddinbych 396,567
Sir y Fflint 546,661
Gwynedd 623,492
Ynys Môn 361,671
Wrecsam 462,733
 

Is-gyfanswm 2,792,712

   

TraCC

 
Powys 744,462
Ceredigion 429,629
Gwynedd Gweler dyraniad TAITH
 

Is-gyfanswm 1,174,091

   

CYFANSWM AR GYFER CYMRU

11,000,000



* SEWTA: Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru
SWWITCH: Consortiwm Trafnidiaeth Integredig De-orllewin Cymru
TraCC: Trafnidiaeth Canolbarth Cymru