Skip to content

Polisi, strategaeth ac ymchwil

Dolenni perthnasol

Mae Cyfarwyddiaeth yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gyfrifol am weithredu'r agenda economaidd a’r agenda drafnidiaeth.

Caiff polisi, strategaeth ac ymchwil ym maes trafnidiaeth eu cyflwyno gan y Grŵp Seilwaith.

Ein gweledigaeth yw cydweithio dros Gymru i helpu i greu economi hyfyw yng Nghymru sy'n sicrhau twf cryf a chynaliadwy drwy greu cyfleoedd i bawb a thrwy hyrwyddo buddsoddiad mewn mwy o swyddi a'r rheini'n swyddi gwell ac amgylchedd gwell i sicrhau twf.

Rydym yn gyfrifol am y canlynol:

  • Polisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru
  • Cynnal a chadw a gwella dros 1,000 o filltiroedd o gefnffyrdd a 75 milltir o draffyrdd yng Nghymru
  • Gweinyddu grantiau i awdurdodau lleol a chyrff eraill i ariannu nifer o gynlluniau a phrosiectau trafnidiaeth pwysig
  • Adfywio strategol - sefydlu sylfeini sy'n ategu buddsoddi mewn mwy o swyddi a'r rheini'n swyddi gwell; cymunedau cryf a gwell amgylchedd ar gyfer ffyniant economaidd
  • Ar hyn o bryd, rydym yn gwario dros £250m y flwyddyn ar drafnidiaeth ac adfywio strategol. Caiff yr arian ei wario'n bennaf ar greu swyddi newydd, galluogi pobl i gael swyddi ar drafnidiaeth gyhoeddus a hwyluso trafnidiaeth i bobl Cymru ac ymwelwyr

Yr Is-adran Ffyrdd a Phrosiectau

Yr Is-adran Ffyrdd a Phrosiectau sy'n gyfrifol am y canlynol:

  • Paratoi, rheoli a gweithredu cynlluniau seilwaith trafnidiaeth mawr
  • Rheoli rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd Cymru, cynnal a chadw a, lle bo'n briodol, gwella lefelau'r gwasanaethau mae'n eu darparu
  • Rheoli Systemau Trafnidiaeth Deallus, gwybodaeth am deithio, arwyddion traffig a chanolfannau rheoli traffig, ac mae ganddi gyfrifoldeb dros ddiogelwch ar y ffyrdd  
  • Rheoli seilwaith y rhwydwaith gan gynnwys strwythurau, goleuadau, signalau a chroesfannau 
  • Rhoi cyngor a chanllawiau ynghylch ffyrdd lleol

E-bost: RoadsandProjects@Wales.GSI.Gov.UK

Yr Is-adran Trafnidiaeth Integredig 

Yr Is-adran Trafnidiaeth Integredig sy'n gyfrifol am y canlynol:

  • Cynllunio strategol a chyflwyno system drafnidiaeth integredig sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, gan gynnwys bysiau a thrafnidiaeth gymunedol leol, Dewisiadau Doethach, tocynnau bws rhatach, Cynllun y Bathodyn Glas, Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwasanaethau Awyr
  • Hyrwyddo teithio cynaliadwy ar y rheilffyrdd a chynlluniau trafnidiaeth ranbarthol blaengar
  • Gwasanaethau i deithwyr yng Nghymru
  • Rheoli Rhyddfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a chyflwyno prosiectau seilwaith rheilffyrdd penodol

E-bost: IntegratedTransport@Wales.GSI.Gov.UK

Yr Is-adran Cynllunio a Llywodraethu Trafnidiaeth

Yr Is-adran Cynllunio a Llywodraethu Trafnidiaeth sy'n gyfrifol am y canlynol:

  • Helpu i ddatblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol
  • Ymgymryd â'r gweithdrefnau caffael cyfreithiol a chaffael tir sy'n ymwneud â seilwaith a chynnal a chadw'r rhwydwaith o draffyrdd a chefnffyrdd
  • Darparu gwasanaeth caffael
  • Rhoi cyngor ar dirwedd a'r amgylchedd i Lywodraeth Cymru
  • Gweinyddu grantiau ar gyfer cynlluniau a gwasanaethau trafnidiaeth mawr, a iawndal ar gyfer adeiladu, cynnal a chadw a defnyddio cefnffyrdd

E-bost: TransportPlanningandGovernance@Wales.GSI.Gov.UK

Yr Is-adran Polisi Trafnidiaeth

Yr Is-adran Polisi Trafnidiaeth sy'n gyfrifol am y canlynol:

  • Datblygu a symud polisi trafnidiaeth yn ei flaen yng Nghymru
  • Helpu Gweinidogion i ystyried adroddiad trafnidiaeth Grwp Cynghori'r Gweinidog ac i symud argymhellion yn eu blaenau
  • Datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol

E-bost: TransportandStrategicRegeneration@Wales.GSI.Gov.UK

Adfywio Strategol

Yr Is-adran Adfywio Strategol sy'n gyfrifol am y canlynol:

  • Datblygu a symud Meysydd Adfywio Strategol yn eu blaenau
  • Rheoli cynlluniau adfywio o'r gorffennol
  • Rheoli trefniadau Ailddatblygu Bae Caerdydd

E-bost: Gov-BusStrategicRegeneration@Wales.GSI.Gov.UK