Skip to content

Tocynnau bws rhad

Oeddech chi’n gwybod bod gennych hawl i deithio ar fysiau lleol am ddim os ydych yn bensiynwr neu'n berson anabl?

Yng Nghymru mae 2 gynllun sy'n cynnig tocynnau teithio rhad gyda chwmnïau bysiau lleol.

Gall menywod a dynion sy'n 60 oed a throsodd a phobl anabl o bob oed sy'n byw yng Nghymru, deithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru.
 
Mae'r cynllun hefyd yn caniatáu i gymdeithion pobl anabl deithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru.

  • Gall y tocyn bws rhad gael ei ddefnyddio unrhyw adeg o'r dydd
  • Mae'r cynllun tocynnau bws rhad yn cael ei gynnig gan Awdurdodau Lleol ledled Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am docynnau bws, cliciwch ar 'Tocynnau teithio rhad i'r henoed a'r anabl' ar frig y dudalen hon.
 
Ewch i wefan DirectGov i gael gwybodaeth am deithio a hamdden ar gyfer pobl dros 50 oed.