Skip to content

Tocynnau teithio rhad i'r henoed a'r anabl

Gweithredir y cynllun ar hyd a lled Cymru a gall deiliaid tocyn teithio rhad deithio yn rhad ac am ddim, unrhyw amser o'r dydd.

Beth yw'r cynllun?

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi cymorth ariannol i awdurdodau lleol Cymru fel bo pobl dros 60 oed neu bobl anabl o unrhyw oed sy'n preswylio yng Nghymru yn cael teithio'n rhad ac am ddim ar wasanaethau bws lleol sydd wedi'u cofrestru.  Mae cyfeillion pobl anabl yn gallu teithio yn rhad ac am ddim ar fysiau lleol hefyd.

Mae'r ddarpariaeth hefyd yn caniatáu i'r bobl hynny sy’n gymwys i gael pas bws ond sy'n methu defnyddio'r bws oherwydd anabledd, gael pas ar gyfer dulliau mwy hygyrch o deithio.  Mae gan yr Awdurdodau Lleol hawl i ddefnyddio disgresiwn gyda thocynnau teithio fel bo deiliad tocyn teithio rhad ar fws yn gallu defnyddio dulliau eraill o deithio.

Sut mae gwneud cais am bas?

Cysyllwch â’ch Awdurdod Lleol i gael gwybodaeth am deithio ar fws yn rhad ac am ddim.  Cynllun Peilot Menter Tocynnau Teithio Rhad Cymunedol ar gyfer pobl ag anabledd difrifol a phobl dan anfantais gymdeithasol.
A ydy'r cynllun tocynnau teithio rhad ar fws i’r henoed a’r anabl yn gymwys i mi?
Rydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun os ydych chi'n:
  • preswylio yng Nghymru (mae’n rhaid ichi brofi hyn trwy gyflwyno dogfennau sy’n dangos cyfrifoldeb dros wariant:- treth y Cyngor, rhent, trethi dŵr, biliau nwy neu drydan, dogfennau ynglŷn â budd-daliadau, mantolenni banc
  • diwallu’r meini prawf oed – mae’n rhaid profi hyn trwy gyflwyno tystysgrif geni, pasbort neu
  • diwallu’r cymwyseddau anabledd isod.

Categorïau o bobl anabl.

Mae categorïau pobl anabl yn cynnwys unrhyw berson sydd:
  1. Yn ddall neu’n rhannol ddall: (Os nad yw’r sawl sy’n ymgeisio ar gofrestr pobl ddall neu rannol ddall yr Awdurdodau Lleol, mae’n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn gofyn i arbenigwr llygaid am dystiolaeth sy’n datgan y dylent fod ar y gofrestr ar gyfer pobl sy'n ddall neu'n rhannol ddall (e.e. optometrydd).)
  2. Yn hollol fyddar neu’n drwm iawn eu clyw: (Mae’n bosibl y bydd yr Awdurdodau Lleol yn gofyn i’r ymgeiswyr am dystiolaeth eu bod wedi cofrestru cyn dosbarthu pas neu am dystiolaeth y dylai’r sawl sy’n cofrestru fod ar y gofrestr (e.e. adroddiad ar y clyw neu adroddiad gan arbenigwr clyw).)
  3. Heb leferydd: (Yn nhyb Llywodraeth Cymru, ni fyddai’r categori hwn yn cynnwys pobl sy’n gallu cyfathrebu ar lafar ond y mae eu lleferydd yn araf neu'n anodd ei ddeall oherwydd atal dweud dwys, er enghraifft. Wrth ystyried cais o dan yr amgylchiadau hyn, mae’n rhesymol i’r awdurdod lleol ofyn am dystiolaeth feddygol i gefnogi’r cais mewn achosion sy’n gofyn am hynny.)
  4. Ag anabledd, neu sydd wedi dioddef anaf, sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar ei allu ef/hi i gerdded: (Gellir cefnogi cymhwysedd o dan y diffiniad hwn gyda: - Cyfradd Uwch Elfen Symudedd Lwfans Byw i’r Anabl, atodiad symudedd pensiwn rhyfel. Mae’n rhaid bod yr ymgeisydd wedi bod yn derbyn y budd-dal hwn am o leiaf 12 mis.)
  5. Heb freichiau neu ddiffyg defnydd hirdymor yn y ddwy fraich: (Mae’r categori hwn yn cynnwys pobl sydd wedi colli'r ddwy fraich a’r rhai sydd wedi'u geni heb freichiau. Mae’r categori hwn hefyd yn cynnwys pobl sydd ag anffurfiaeth yn y ddwy fraich a phobl sydd â breichiau ond sy'n methu a'u defnyddio i wneud tasgau pob dydd.  (Fel arfer, bydd Awdurdod Lleol yn gofyn am dystiolaeth feddygol annibynnol i gefnogi’r cais.))
  6. Anabledd dysgu, hynny yw, cyflwr o feddwl sy'n ataliol neu'n anghyflawn sy'n cynnwys amhariad sylweddol o ran deallusrwydd a gweithredu’n gymdeithasol: (Rhaid bod yr anableddau dysgu hyn wedi dechrau cyn eu bod yn oedolyn gan effeithio'n barhaol ar eu datblygiad. Dylai'r person fod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau arbenigol ac mae’n bosibl bod ef/hi wedi derbyn darpariaeth addysgol arbennig. Os nad oes unrhyw gysylltiad blaenorol wedi bod gyda gwasanaethau arbenigol, fel arfer bydd yr awdurdod lleol yn gofyn am gyngor meddygol annibynnol, neu'n gwirio unrhyw gofrestr o bobl sydd ag anableddau dysgu sydd gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol cyngor lleol yr ymgeisydd.)
  7. Yn cael cais am drwydded gyrru o dan Ran III Deddf Traffig y Ffyrdd 1988 wedi ei wrthod yn sgil adran 92 o'r Ddeddf (ffitrwydd corfforol) yn hytrach nag ar sailcamddefnyddio cyson ar gyffuriau neu alcohol: (Ar hyn o bryd, y rhai sy'n cael eu heithrio rhag cael trwydded yrru yw'r rhai gyda:

    • Epilepsi (oni bai ei fod yn fath nad yw'n achosi perygl) 
    • Anhwylder meddwl difrifol 
    • Tueddiad i byliau sydyn o deimlo’n ben ysgafn neu lewygu (un ai o ganlyniad i anhwylder cardiaidd neu beidio) 
    • Ddim yn gallu darllen plât cofrestru o bellter o 20.5 metr mewn golau da (yn gwisgo lensys, os oes ganddynt rai)
    • Anableddau eraill sy’n debygol o achosi perygl i’r cyhoedd os ydynt yn gyrru cerbyd
  8. Mae unrhyw berson sydd ag anhwylder cardiaidd, locomotaidd, arennol neu niwrolegol yn gymwys (mae’r olaf yn cynnwys y rheini sy’n dioddef o ddementia cynamserol) 
  9. Os oes amheaueth a ddylai rhywun gael trwydded yrru, yna bydd yr Awdurdod Lleol yn gofyn am gyngor meddygol annibynnol.

Cardiau Call

  1. Ar ran Llywodraeth Cymru, mae Awdurdodau Lleol ar fin cwblhau dosbarthu Cardiau Call i bron 600,000 o bobl oedrannus neu anabl yng Nghymru sy’n gymwys i gael tocyn teithio rhad ar fysiau.
  2. Cynllun Peilot Menter Tocynnau Teithio Rhad Cymunedol ar gyfer pobl ag anabledd difrifol a phobl dan anfantais gymdeithasol.