Skip to content

Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru

Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru
Pwyllgor cynghori yw'r Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am roi cyngor i Weinidogion Cymru am faterion strategol sy'n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Beth y mae'r Pwyllgor yn ei wneud?

Mae'r Pwyllgor yn cymryd trosolwg strategol annibynnol o'r gwasanaethau a'r cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru ac yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r Pwyllgor yn canolbwyntio'n bennaf ar gynghori Gweinidogion Cymru ar atebion sy'n seiliedig ar opsiynau er mwyn:

  • cynyddu apêl trafnidiaeth gyhoeddus
  • hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol trwy wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus
  • gwella hygyrchedd a diogelwch gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a sut y maent yn symud
  • annog teithio cynaliadwy a chefnogi trafnidiaeth integredig
  • annog rhai i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na'u ceir preifat.

Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Mae lleoliad y cyfarfodydd yn symud yn ôl trefn i bedwar rhanbarth trafnidiaeth Cymru. Gogledd, Canolbarth, y De-orllewin a De-ddwyrain Cymru). Fel arfer, cyfarfodydd un diwrnod ydynt.

Pwy sydd ar y Pwyllgor?

Mae aelodaeth y Pwyllgor yn cynnwys aelodau anweithredol, gan gynnwys cadeirydd a naw aelod pwyllgor. Un o'r aelodau hyn hefyd yw cynrychiolydd Cymru ar  y Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl (DPTAC).