Skip to content

Steve Hale - Aelodau'r Pwyllgor

Athro Gwyddoniaeth ysgol uwchradd o Sir Benfro yw Steve Hale sy’n credu’n gryf y bydd pobl ifanc yn cyfrannu’n sylweddol at ddyfodol trafnidiaeth integredig.

Steve HaleCyn cychwyn ar ei yrfa bresennol ym myd addysg, arferai Steve weithio i gontractwr Peirianneg Sifil mawr yng Nghymru yn y sector priffyrdd, ac roedd yn aelod o’r Sefydliad Priffyrdd a Chludiant.

Mae Steve yn teithio’n eang ar drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru a’r DU, yn arbennig ar drenau, ac mae wedi bod yn ymwneud â Fforwm Trafnidiaeth Gogledd Sir Benfro i wella trafnidiaeth integredig i orllewin Cymru ac o fewn yr ardal ers rhai blynyddoedd, yn ddiweddarach fel aelod o’r pwyllgor. Mae gan Steve ddiddordeb arbennig mewn gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc, ac mewn trafnidiaeth ryngranbarthol, tra’n gwerthfawrogi rôl datrysiadau trafnidiaeth gymunedol ar gyfer trafnidiaeth wledig.

Enillodd Steve radd mewn peirianneg sifil ym Mhrifysgol Abertawe ym 1986, a thystysgrif addysg i raddedigion o’r un sefydliad ym 1996. Mae Steve yn siarad Cymraeg ac yn dysgu Gwyddoniaeth a Ffiseg trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg i ddisgyblion 11 i 18 oed.