Skip to content

Cyffordd 24-28 yr M4 Cynllun Terfyn Cyflymder

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Diben y Cynllun yw sicrhau fod traffig yn parhau i lifo rhwng Cyffordd 24 (Coldra) a Chyffordd 28 (Parc Tredegar) drwy addasu'r terfyn cyflymder, gan wneud teithiau'n fwy diogel ac yn fwy dibynadwy.

Pa fanteision a ddaw yn sgil y cynllun terfyn cyflymder newidiol ar yr M4?

Dyma fanteision disgwyliedig y cynllun:

  • Llai o dagfeydd
  • Gostyngiad o tua 13% yn y cyfraddau damweiniau
  • Gwelliant mewn dibynadwyedd amseroedd teithio
  • Gwelliant yn ansawdd yr aer wrth i lai o yrwyr frecio’n gyflym a chaled
  • Amodau gyrru gwell
  • Cynnydd yn llif y traffig dros y rhan reoledig gan arwain at gynnydd yn y nifer mwyaf y gall ei gynnal
  • Arbedion amcangyfrifedig o £40 miliwn dros y 30 mlynedd nesaf drwy ostyngiad mewn damweiniau a chynnydd mewn dibynadwyedd amseroedd teithio.

Mae terfynau cyflymder newidiol wedi bod yn rhan o sawl cynllun llwyddiannus a weithredwyd yn ddiogel ar briffyrdd yr M25 a’r M42. Y canlyniad oedd cynnydd yn nibynadwyedd amseroedd teithio a gostyngiad mewn cyfraddau damweiniau. Mae’r profiad hwn yn rhoi’r hyder inni y gallwn wneud yr un peth ar gyfer y rhan hon o draffordd yng Nghymru.

Pwy sy'n arwain y prosiect?

Llywodraeth Cymru sy'n arwain y prosiect drwy Traffig Cymru, ei gwasanaeth rheoli traffig a gwybodaeth. Bydd tîm yr ystafell reoli yn gweithredu ac yn monitro'r system newydd o Ganolfan Rheoli Traffig De Cymru yng Nghoryton, Caerdydd.

Mae’r cynllun terfyn cyflymder newidiol yn rhan o raglen ehangach Llywodraeth Cymru i wella cysylltiadau ffyrdd pwysig drwy Gymru. Ei nod yw rheoli’r rhwydwaith ffyrdd strategol yn effeithiol nawr ac yn y dyfodol, gan annog mewnfuddsoddi, twf a swyddi.