Skip to content

Cynllun Gweithredu Cerdded a Beicio 2009 - 2013

Dolenni perthnasol

Mae hawl i chi gerdded ar 20% o arwynebedd tir Cymru – mae hyn yn cynnwys Llwybr Arfordir Cymru.
Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
clawr: Walking and Cycling Action Plan 2009 - 2013
Mae'r Llywodraeth Cymru yn awyddus i annog mwy o bobl i gerdded a beicio'n fwy diogel ac yn fwy aml. Mae'r Cynllun Gweithredu hwn yn esbonio sut rydyn ni a'n partneriaid yn cefnogi cerdded a seiclo yng Nghymru.

 Ein prif amcanion yw:

  • Gwella iechyd a lles y boblogaeth trwy gynyddu gweithgarwch corfforol;
  • Gwella’r amgylchedd lleol i gerddwyr a beicwyr;
  • Annog teithio cynaliadwy fel cam ymarferol i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd;
  • Hyrwyddo cyfleusterau er mwyn annog pobl i gerdded a beicio mwy; a
  • Sicrhau bod polisïau, cyfarwyddyd a chyllid trawsbynciol yn rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio.

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cefnogi nifer o fentrau a chyrff gan gynnwys:

  • Llwybrau Diogel mewn Cymunedau: Helpu awdurdodau lleol i ddatblygu llwybrau cerdded a beicio diogel a gwella hygyrchedd i bawb;
  • Cynllun grant i wella cefnffyrdd a thrafnidiaeth i gynnig seilwaith newydd ar gyfer cerdded a beicio; a
  • Cyllid craidd i Sustrans Cymru, elusen trafnidiaeth gynaliadwy.

Ewch i: wefan Sustrans (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)

  • Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Beicio: Cyflwyno’r Safonau Cenedlaethol trwy gynyddu nifer yr hyfforddwyr cymwysedig yng Nghymru, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Elusennol CTC.

Ewch i: wefan CTC (Clwb Teithio Beicwyr) (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)

  • Dewch i Gerdded Cymru: menter Cymru gyfan a ddatblygwyd trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru - ei diben yw cynyddu nifer y bobl sy’n cerdded yn rheolaidd.

Ewch i: wefan Dewch i Gerdded Cymru (cyswllt allanol) 

  • Bike It – menter beilot Sustrans Cymru sy’n anelu at gynyddu nifer y bobl sy’n beicio i’r ysgol trwy hyrwyddo’r manteision; dysgu sgiliau beicio a chynnal digwyddiadau beicio i’r ysgol a theithiau beicio.

Ewch i: wefan Bike It (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)

Dolenni defnyddiol i sefydliadau eraill

Ewch i: wefan Cymdeithas y Cerddwyr (cyswllt allanol, Saesneg yn unig)