Skip to content

Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru (WelTAG)

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Mae WelTAG yn offeryn newydd ar gyfer arfarnu trafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n berthnasol i brosiectau, cynlluniau a rhaglenni sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn gofyn i fentrau trafnidiaeth ar raddfa fawr sy'n ceisio cyllid gan y llywodraeth gael eu harfarnu â'r arweiniad newydd hwn.

Mae WelTAG yn galluogi ymarferwyr i bennu amcanion o ran trafnidiaeth, cynllunio, gwerthuso a monitro mentrau yn unol â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae'r arfarnu yn canolbwyntio ar dri phrif faes o safbwynt effaith:

  • Economi
  • Amgylchedd
  • Gymdeithas.

Mae WelTAG yn berthnasol i fentrau trafnidiaeth sydd wrthi'n cael eu cynllunio, ond nid yw'n berthnasol i'r rheini y mae gweithdrefnau statudol eisoes wedi'u cwblhau yn eu cylch. Dogfen fyw yw WeITAG a chaiff ei diwygio o bryd i'w gilydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Cynllunio Trafnidiaeth yn WelTAG@wales.gsi.gov.uk