Skip to content

Rheilffyrdd

Dolenni perthnasol

Cyhoeddiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth yw Asesiad Cynllunio Rheilffyrdd Cymru (ACRhC).
Mae'r Gweinidog sy’n gyfrifol am Gludiant, Carl Sargeant, wedi agor yn swyddogol Gorsaf Drenau Stryd Fawr Abertawe ar ei newydd wedd.
Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Trafnidiaeth, wedi cyhoeddi gwelliannau newydd i’r gwasanaeth trên cyflym rhwng y gogledd a’r de, sef rhwng Caergybi a Chaerdydd.
Llun o drên yn dynesu at orsaf Pontypridd
Rydym yn awyddus i wella gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr a gwasanaethau cludo nwyddau yng Nghymru.

Yn sgil Deddf Rheilffyrdd 2005, trosglwyddwyd y rhan fwyaf o swyddogaethau'r Awdurdod Rheilffyrdd Strategol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth y DU. Roedd y Ddeddf yn cynnwys darpariaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru allu cyd-lofnodi Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, mae'r pwerau hyn wedi'u dirprwyo drwy Brif Weinidog Cymru i'r Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau. O dan y Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru yn cael:

  • datblygu ac ariannu cynlluniau i wella'r seilwaith
  • datblygu gwasanaethau newydd i deithwyr rheilffyrdd
  • buddsoddi er mwyn gwella profiad teithio defnyddwyr y rheilffyrdd
  • ariannu cynlluniau, drwy gyfrwng y Grant Cyfleusterau Cludo Nwyddau (FFG) i wella'r gwasanaethau cludo nwyddau.