Skip to content

Tocynnau Trên Rhatach

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Cynllun Tocynnau Trên Rhatach er 2007 ar gyfer pobl 60 oed a throsodd a phobl anabl o bob oed, mewn ardaloedd diffiniedig.

Cynlluniau trên rhad ac am ddim i barhau

Ym mis Medi 2011, cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau becyn ariannu am ddwy flynedd arall i barhau’r cynllun tocynnau trên consesiynol ar rai rheilffyrdd penodol yng Nghymru. Gweithredir y cynllun ar y rheilffyrdd gwledig canlynol ar gyfer deiliaid tocynnau cymwys:

  • Rheilffordd y Gororau: drwy’r flwyddyn
  • Rheilffordd Cwm Conwy: drwy’r flwyddyn

Gweithredir y cynllun ar y rheilffyrdd canlynol yn ystod misoedd y gaeaf yn unig (felly maent wedi dod i ben ar gyfer y flwyddyn 2011/12):

  • Rheilffordd Arfordir y Cambrian o 3 Hydref 2011 tan 31 Mawrth 2012. Bydd yn ailddechrau ar 1 Hydref 2012 tan 31 Mawrth 2013.
  • Rheilffordd Calon Cymru o 3 Hydref 2011 tan 31 Mawrth 2012. Bydd yn ailddechrau ar 1 Hydref 2012 tan 31 Mawrth 2013.

Mae deiliaid Cerdyn Cymru cymwys yn cael teithio am ddim ar Reilffordd Dyffryn Conwy rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno, ac ar y rhan o Reilffordd Wrecsam i Bidston sydd yng Nghymru.  Mae’r cyntaf yn agored i ddeiliaid Cerdyn Cymru o siroedd Conwy a Gwynedd ac mae’r ail yn agored i ddeiliaid y cerdyn o Sir y Fflint a Wrecsam. Bydd y cynllun yn parhau tan ddiwedd mis Medi 2013 ar y rheilffyrdd hyn.

Gweithredir cynllun Arfordir y Cambrian yn ystod misoedd y gaeaf ar gyfer deiliaid cymwys y cerdyn yng Ngwynedd a gweithredir cynllun Rheilffordd Calon Cymru ar gyfer deiliaid cymwys y cerdyn yn Sir Gâr a Phowys.

Gweithredir cyfyngiadau ar y gwasanaethau fel a ganlyn:

Rheilffordd y Gororau

Dydd Llun – Dydd Gwener

  • 07:31 Bidston i Wrecsam

Rheilffordd Arfordir y Cambrian

Nid yw’r cynllun ar gael ar y gwasanaethau canlynol (neu wasanaethau cyffelyb os newidir yr amserau ychydig):

  • 06:10 Pwllheli i Fachynlleth (rhwng y Bermo a Thywyn);
  • 07:34 Pwllheli i Fachynlleth (rhwng Penrhyndeudraeth a 
    Harlech):
  • 12:56 Machynlleth i Bwllheli (rhwng Harlech a Phenrhyndeudraeth)
  • 14:56 Machynlleth i Bwllheli (rhwng Tywyn a’r Bermo)

Mae sawl dewis arall o ran tocynnau trên rhatach ar gael ledled Prydain Fawr.

Cardiau Rheilffordd

Carden Rheilffordd Pobl Hŷn

Mae’r Garden Rheilffordd Pobl Hŷn ar gael i unrhyw sy’n 60 oed a throsodd. Mae’r Garden Rheilffordd hon yn rhoi gostyngiad o 1/3 i deithwyr ar y rhan fwyaf o docynnau Safonol a Dosbarth Cyntaf ledled Prydain Fawr am 12 mis. Pris y garden am flwyddyn yw £28 neu £65 am garden 3 blynedd. Yr unig gyfyngiad yw’r gwasanaethau oriau brig yn y bore, o ddydd Llun i ddydd Gwener (heb gynnwys Gwyliau Cyhoeddus) ar gyfer siwrneiau o fewn Llundain ac ardal De-ddwyrain Lloegr.

I gael manylion llawn a’r telerau ac amodau ewch i wefan cardiau rheilffordd i bobl hŷn.

Carden Rheilffordd Pobl Anabl

Gall teithwyr sy’n anabl ac yn ei chael hi’n anodd teithio ar y trên fod yn gymwys am Garden Rheilffordd Pobl Anabl. Mae’n golygu y gall teithwyr anabl - ac oedolyn sy’n gyd-deithiwr - gael gostyngiad o 1/3 ar y rhan fwyaf o docynnau Safonol a Dosbarth Cyntaf ledled Prydain Fawr.

Pris y garden am flwyddyn yw £20 a £54 am garden tair blynedd. Mae angen i deithwyr anabl brofi eu bod yn gymwys i gael carden o’r fath.

Teithio heb Gerdyn Rheilffordd Pobl Anabl

Cynigir disgownt i ddefnyddwyr cadair olwyn sy’n teithio heb Gerdyn Rheilffordd Pobl Anabl, ac i un cyd-deithiwr, fel a ganlyn:

  • 34% oddi ar docynnau sengl Dosbarth Cyntaf neu docynnau sengl Unrhyw Adeg Safonol (Standard Anytime)
  • 50% oddi ar docynnau dwyffordd diwrnod (day return) Dosbarth Cyntaf neu docynnau dwyffordd diwrnod Unrhyw Adeg Safonol (Standard Anytime)
  • 34% oddi ar docynnau dwyffordd Dosbarth Cyntaf neu Docynnau dwyffordd Unrhyw Adeg Safonol

Mae gan blentyn sy’n defnyddio cadair olwyn yr hawl i ostyngiad o 76% ar y teithiau hyn.

Mae gan deithwyr sy’n gofrestredig fel pobl â nam ar eu golwg ac sy’n teithio heb Gerdyn Rheilffordd Pobl Anabl yr hawl i ddisgownt i’w hunain ac i un cyd-deithiwr fel a ganlyn:

  • 34% oddi ar docynnau sengl Dosbarth Cyntaf neu docynnau sengl Unrhyw Adeg Safonol (Standard Anytime)
  • 50% oddi ar docynnau dwyffordd diwrnod (day return) Dosbarth Cyntaf neu docynnau dwyffordd diwrnod Unrhyw Adeg Safonol (Standard Anytime)
  • 34% oddi ar docynnau dwyffordd Dosbarth Cyntaf neu Docynnau dwyffordd Unrhyw Adeg Safonol

Fodd bynnag, nid yw’r disgowntiau’n gymwys os bydd teithiwr sy’n gofrestredig fel person â nam ar ei olwg heb Gerdyn Rheilffordd Pobl Anabl yn teithio heb gyd-deithiwr.

Am fanylion llawn a thelerau ac amodau ewch i wefan cerdyn rheilffordd i bobl anabl.

Carden Rheilffordd 16-25

Pris y Garden Rheilffordd 16-25 (Carden Rheilffordd Pobl Ifanc yn flaenorol) am flwyddyn yw £28 neu £65 am garden 3 blynedd ac mae’n rhoi disgownt o 1/3 ar docynnau trên i deithwyr rheilffordd ledled Prydain Fawr am flwyddyn.  I gael Carden Rheilffordd 16-25, rhaid ichi fod rhwng 16 a 25 oed, neu dros 26 oed ac mewn addysg lawn-amser.

Mae modd defnyddio’r garden hon unrhyw bryd ar benwythnosau, Gwyliau Cyhoeddus ac yn ystod yr wythnos. Yr unig gyfyngiad yw ar deithiau am 10am neu cyn hynny o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio yn ystod Gorffennaf ac Awst) pan fydd isafswm pris yn daladwy.

I gael manylion llawn a’r telerau ac amodau ewch i wefan cardiau rheilffordd 16-25.

Carden Rheilffordd Teulu a Ffrindiau

Pris Carden Rheilffordd Teulu a Ffrindiau (Carden Rheilffordd Teulu yn flaenorol) am flwyddyn yw £28 neu £65 am garden 3 blynedd ac mae’n rhoi disgownt o 1/3 ar docynnau tren i oedolion, a gostyngiad o 60% ar docynnau i blant ledled Prydain Fawr.  

Gall hyd at bedwar oedolyn a phedwar plentyn deithio gydag un garden, ac nid oes raid iddynt fod yn perthyn i’w gilydd.

Mae modd defnyddio’r Garden Rheilffordd Teulu a Ffrindiau unrhyw bryd yn ystod yr wythnos, ar benwythnosau a Gwyliau Cyhoeddus. Yr unig gyfyngiad yw’r gwasanaethau oriau brig yn y bore, o ddydd Llun i ddydd Gwener (heb gynnwys Gwyliau Cyhoeddus) ar gyfer siwrneiau o fewn Llundain ac ardal De-ddwyrain Lloegr.

I gael manylion llawn a’r telerau ac amodau ewch i wefan Teulu a ffrindiau cerdyn rheilffordd.

Cerdyn Rheilffordd Calon Cymru

Gall trigolion nad ydynt yn ddeiliaid Cerdyn Cymru yn Abertawe, Sir Gâr a Phowys gael teithiau trên rhatach ar reilffordd Calon Cymru drwy gofrestru gyda Chymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru am ffi flynyddol o £5 a phrynu Cerdyn Rheilffordd Calon Cymru am £5 ar ôl cofrestru. Byddai hyn yn rhoi disgownt o draean.

I gael y manylion llawn a thelerau ac amodau, ewch i wefan Cerdyn Rheilffordd Calon Cymru.

Carden Rheilffordd Sir Benfro

Mae Carden Rheilffordd Sir Benfro ar gael ar gyfer pob siwrnai o fewn Sir Benfro, gan ymestyn i Abertawe drwy Gaerfyrddin. Mae ar gael i bawb sy’n 16 oed a throsodd ac sy’n byw mewn ardaloedd cod post dethol yn Sir Benfro. Pris y garden hon yw £5.00 ac mae’n ddilys am flwyddyn. Gall deiliad y garden gael disgownt o 34% wrth deithio ar drenau lleol. Nid oes isafswm pris.

I brynu Carden Rheilffordd Sir Benfro, ewch i’r swyddfa archebu tocynnau yng ngorsaf Caerfyrddin neu Hwlffordd. Dim ond pawb sy’n 16 oed a throsodd gall ddefnyddio’r garden hon, a rhaid iddynt fod yn byw yn yr ardaloedd cod post canlynol: SA34 0; SA61 1; SA61 2; SA62 3; SA62 4; SA62 5; SA62 6; SA63 4; SA64 0; SA65 9; SA66 7; SA67 7; SA67 8; SA68 0; SA69 9; SA70 7; SA70 8; SA71 4; SA71 5; SA72 4; SA72 6; SA73 1; SA73 2; SA73 3.

I gael manylion llawn ewch i wefan Trenau Arriva Cymru.

Carden Rheilffordd y Cambrian

Mae Carden Rheilffordd y Cambrian yn golygu y gall deiliaid gael gostyngiad o 1/3 wrth brynu’r rhan fwyaf o docynnau’r dosbarth safonol ar gyfer teithiau rhwng Pwllheli, Aberystwyth, Machynlleth, y Drenewydd a’r Amwythig (gan gynnwys o / i orsafoedd rhwng y trefi hynny).

I gael manylion llawn ewch i wefan Trenau Arriva Cymru.

Tocyn Crwydro Cymru

Gall teithwyr grwydro ledled Cymru ar y bws a’r trên gyda Thocyn Crwydro Cymru.

Mae’r tocyn hwn hefyd yn galluogi’r deiliad i gael disgowntiau ar bris mynediad i lawer o atyniadau a disgowntiau ar bris llety, fel a ganlyn:

  • Disgowntiau ar naw o reilffyrdd main Cymru
  • Mynediad ‘2 am bris 1’ i lawer o gestyll mwyaf ysblennydd Cymru, sydd dan ofal Cadw: Henebion Cymru
  • Disgownt o 20% ar fynediad i safleoedd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Disgownt o 20% ar fynediad i atyniadau annibynnol
  • Disgownt o 10% ar brisiau Cymdeithas yr Hostelau Ieuenctid ledled Cymru
  • Disgownt o 20% ar deithiau bysiau ymweld ‘City Sightseeing’ yng Nghaerdydd, Caer, Casnewydd a Llandudno

Mae llawer iawn mwy o ddisgowntiau – cymerwch gipolwg ar y rhestr lawn yn y cyfeiriad isod.

Mae tri math o docyn. Mae pob un yn cynnig teithio diderfyn ar bob gwasanaeth ar brif reilffyrdd Cymru a’r rhan fwyaf o wasanaethau bws.

  • Mae’r Tocyn 8 Diwrnod yn rhoi pedwar diwrnod o deithio ar y trên ac wyth niwrnod o deithio ar y bws am £89.
  • Mae Tocyn Crwydro De Cymru yn rhoi pedwar diwrnod o deithio ar y trên ac wyth diwrnod o deithio ar y bws am £60
  • Mae Tocyn Crwydro Gogledd a Chanolbarth Cymru hefyd yn rhoi pedwar diwrnod o deithio ar y trên ac ar y bws mewn cyfnod o wyth diwrnod am £60.

I gael manylion llawn am bob cynnig a phob disgownt, ewch i safle ‘Crwydro Cymru / Explore Wales’ yn: www.arrivatrainswales.co.uk/ExploreWales.