Skip to content

Nodiadau Cyngor Interim (IAN)

Nodiadau Cyngor y “Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd” (DMRB) yw Nodiadau Cyngor Interim (IAN). Maent yn cael eu cyhoeddi dros dro cyn i’r nodiadau cyngor terfynol eu disodli.

Pryd y mae IAN yn cael eu defnyddio?

Mae IAN yn cael eu defnyddio gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â gwella a gweithredu ein rhwydwaith ffyrdd. Dim ond mewn perthynas â gwaith ar draffyrdd a phriffyrdd yng Nghymru y dylid defnyddio’r IAN hyn.

Rhaid darllen IAN ar y cyd â’r Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd (DMRB) a’r Llawlyfr Dogfennau Contract ar gyfer Gwaith Priffyrdd (MCHW) sydd i’w cael ar wefan Safonau Priffyrdd (Dolen allanol - Saesneg yn unig)

Statws yng Nghymru

Gellir gweld statws IAN yng Nghymru drwy ddewis ‘Statws Nodiadau Cyngor Interim yng Nghymru’ ar ochr chwith y dudalen hon.

Cyhoeddwyd i Gymru yn Unig

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi IAN i ‘Gymru yn Unig’. Mae’r rhain yn cael yr un cyfeirnod â "(W)" wedi’i atodi wrtho.

Mae’r rhain i’w gweld drwy ddewis ‘Nodiadau Cyngor Interim Cyhoeddedig i Gymru yn Unig’ ar ochr chwith y dudalen hon.

I weld IAN yr Asiantaeth Priffyrdd sy’n cael eu defnyddio yn Lloegr, ewch i’r wefan Safonau Priffyrdd (Dolen allanol - Saesneg yn unig).