Skip to content

Hawliadau iawndal rhan 1

O dan Ran 1 o Ddeddf Iawndal Tir 1973, gall perchenogion tai hawlio iawndal os yw gwerth eu heiddo wedi lleihau mwy na £50 oherwydd ffactorau ffisegol a achoswyd gan ffordd newydd neu ffordd wedi'i haddasu.

Cwestiynau cyffredin

Beth yw'r ffactorau ffisegol?

Y ffactorau ffisegol yw: sŵn, dirgryndod, arogl, mygdarth, mwg a goleuadau artiffisial ac unrhyw sylweddau solid neu hylif sy'n gollwng ar yr eiddo.

Pwy all hawlio?

Rhaid mai chi oedd perchennog yr eiddo ar y dyddiad yr agorwyd y ffordd i draffig cyhoeddus a'ch bod yn berchen ar yr eiddo ac yn byw ynddo ar y dyddiad y cyflwynir yr hawliad. Os mai tenant sy'n byw yn yr eiddo, rhaid darparu cytundeb tenantiaeth ar gyfer y dyddiad y gwnaethoch gyflwyno'r hawliad.

Beth os ydw i eisoes wedi cael iawndal am golli tir?

Ni allwch hawlio iawndal o dan Ran 1 o Ddeddf Iawndal Tir 1973 os ydych eisoes wedi cael iawndal neu ar fin cael iawndal am golli tir sy'n gysylltiedig â'r eiddo.

A alla i hawlio iawndal am golli golygfa?

Nid yw colli golygfa, anghyfleustra personol a ffactorau ffisegol sy'n codi wrth adeiladu'r ffordd wedi'u cynnwys o dan Ran 1.

Sut ydw i'n hawlio?

Gallwch gyflwyno hawliad eich hun neu ofyn i rywun wneud hyn ar eich rhan. Gall unrhyw un weithredu ar eich rhan ond mae'n well gan y rhan fwyaf o bobl benodi asiant prisio i ddelio â'r hawliad. Mae asiantwyr fel arfer yn dosbarthu llythyron ymlaen llaw i'r tai sydd o fewn ardal y cynllun ffordd. Gallwch ddod o hyd i asiant drwy chwilio o dan 'Asiantwyr tai a/neu syrfewyr tir' yn eich cyfeiriadur lleol.

Sut ydw i'n cyflwyno hawliad fy hun?

Gallwch gael ffurflenni hawlio oddi wrthym ni (gweler - Sut i gysylltu â ni). Dylech gadw copi o'r ffurflen ar ôl ei llenwi. Cofiwch ddefnyddio gwasanaeth postio sy'n darparu prawf postio rhag ofn nad yw eich hawliad yn ein cyrraedd ni a bod angen i ni fod yn sicr eich bod wedi gwneud yr hawliad yn y lle cyntaf. Mae'n bwysig eich bod yn darparu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani ar y ffurflen hawlio.

Ffioedd yr asiant?

Mae gan Lywodraeth Cymru ddull cytûn o gyfrif treuliau prisio rhesymol. Wrth gyfrif y lefelau a argymhellir, rydym wedi ystyried y camau niferus y mae asiantwyr wedi dweud wrthym eu bod yn eu cymryd wrth negodi hawliau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod na all rwystro asiantwyr rhag gofyn am ffioedd ychwanegol oddi wrth eu cleientiaid - mater preifat i'r partïon dan sylw yw hwn.

Sut i gysylltu â ni?

Dyma ein manylion cyswllt:

Y Tîm Hawliadau Rhan 1 a Sŵn
Llywodraeth Cymru
Y Gangen Tir ac Iawndal
Parc Cathays
Caerdydd
CF1 03N

Ffôn: 029 20 826481
Ffacs:: 029 20 801444
E-bost: part1claims@wales.gsi.gov.uk