Skip to content

Diogelwch ar y ffyrdd

Dolenni perthnasol

Mae a wnelo’r ymgynghoriad hwn ag ymagwedd strategol Llywodraeth Cymru tuag at ddiogelwch ar y ffyrdd hyd at 2020.
Mae Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru yn amlinellu ystod o fesurau i helpu i gyrraedd y targedau.
Cynlluniau gostegu traffig ym Mronllys

Mae gwneud y ffyrdd yn ddiogel i bawb sy'n eu defnyddio yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Rydym am wneud yr ardaloedd preswyl yn fwy diogel i blant ac rydym am i draffig gydnabod anghenion pawb sy'n defnyddio'r ffyrdd ac sy'n agored i niwed. Byddwn yn annog, lle bo'n briodol, defnyddio cynlluniau lliniaru traffig, parthau 20 milltir yr awr, llwybrau diogel i ysgolion a dulliau o deithio heblaw am y car.

Targedau ar gyfer Lleihau Nifer yr Anafusion

Yn 2000, pennodd Llywodraeth Cymru dargedau ar gyfer lleihau nifer yr anafusion mewn damweiniau ffyrdd erbyn 2010. O'i gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer 1994-1998, roeddem am weld:

  • gostyngiad o 40% yn nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol; 
  • gostyngiad o 50% yn nifer y plant sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol; a
  • gostyngiad o 10% yn nifer y bobl sy'n dioddef mân anafiadau am bob 100 miliwn cilomedr mewn cerbyd.

Erbyn diwedd 2010, cyrhaeddwyd y targedau hyn a rhagorwyd arnynt. Roedd nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol wedi gostwng 46%, a nifer y plant a gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol wedi gostwng 63%. Roedd nifer y bobl a gafodd fân anafiadau wedi gostwng 42%.  

Y nod ydi cyflawni targedau newydd erbyn diwedd 2012 i geisio lleihau y niferoedd sy'n cael eu hanafu neu eu ladd mewn damweiniau, mewn cymhariaeth gyda'r cyfartaledd ar gyfer y cyfnod sylfaen rhwng 1994 a 1998.  Y targedau ydi:

  • Cwtogiad cyffredinol o 50% yn y niferoedd sydd yn cael eu lladd neu eu hanafu ar ffyrdd Cymru (bydd hyn yn golygu bod 83 llai o bobl yn cael eu ladd neu eu hanafu mewn cymhariaeth â'r gostyngiad â gyflawnwyd yn 2010.
  • Cwtogiad on 65%yn y niferoeddd o blant â gafodd eu lladd neu eu hanafu ar ffyrdd Cymru (bydd yn golygu llai o blant yn cael eu ladd neu eu hanafu mewn cymhariaeth â'r gostyngiad â welwyd yn 2010).
Yn ddiweddar, cwblhawyd y broses ymgynghori ar y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diogelwch ar y Ffyrdd. Bydd y Cynllun hwn yn pennu ein strategaeth ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd tan 2020, ac yn rhoi targedau newydd ar gyfer lleihau nifer y rhai sy’n cael eu lladd a’u hanafu. Rydym wrthi’n dadansoddi’r ymatebion a dderbyniwyd a byddwn yn cyhoeddi’r Cynllun terfynol yn gynnar yn 2013.