Skip to content

Gyrru ar gyffuriau

Dolenni perthnasol

Bydd i’w weld yn eich llygaid.
Ymgyrch 'Bydd i'w weld yn eich llygaid'.
Mae gyrru dan ddylanwad cyffuriau, boed feddygol neu anghyfreithlon, yn fater difrifol.

Mae’r heddlu, yr awdurdodau ac ymgyrchoedd diogelwch ar y ffyrdd yn targedu gyrwyr sydd dan ddylanwad cyffuriau, boed y cyffuriau hynny’n rhai meddygol neu’n rhai anghyfreithlon. 

Mae ymchwil a wnaed yn ddiweddar wedi dangos bod un ym mhob 10 dyn ifanc sy’n gyrru wedi cyfaddef iddynt wneud hynny ar ôl cymryd cyffuriau anghyfreithlon. Mae’n bosibl bod cyffuriau yn amharu ar systemau un o bob pum gyrrwr sy’n cael eu lladd mewn damweiniau ffordd.

Mae’r heddlu’n gallu dod o hyd i bobl sy’n gyrru ar gyffuriau, a byddant yn gwneud hynny. Bydd unrhyw un sy’n cael ei ddyfarnu’n euog yn wynebu’r un cosbau llym â rhywun sy’n yfed a gyrru. 

Gall yr heddlu weld yr arwyddion bod rhywun yn gyrru o dan ddylanwad cyffuriau. Ar ôl i yrrwr stopio’i gerbyd,  bydd y gwir i’w weld yn y llygaid oherwydd yr effeithiau amlwg a diarwybod y mae cyffuriau yn eu cael ar y corff. Bydd unrhyw sy’n cael ei ddedfrydu’n euog o yrru dan ddylanwad cyffuriau yn cael gwaharddiad gyrru am o leiaf 12 mis, cofnod troseddol a dirwy drom. 

Ystyrir bellach bod yfed a gyrru yn gymdeithasol annerbyniol ac mae nifer y bobl sy’n cael eu lladd mewn damweiniau yfed a gyrru wedi gostwng yn syfrdanol. Mae’r cosbau am yrru ar gyffuriau yr un peth yn union â’r rhai ar gyfer yfed a gyrru, gan fod y perygl yr un fath.

Bydd yr heddlu’n targedu’r bobl hynny a allai fod yn gyrru ar gyffuriau. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Think! Drug Drive. (dolen allanol-Saesneg yn unig)