Skip to content

Marw dros eich galwad?

Picture of a damaged mobile-phone surrounded by broken rear-light glass.
Mae’n erbyn y gyfraith i ddefnyddio ffôn symudol yn eich llaw wrth yrru ac mae’r dirwyon yn codi. O 27 Chwefror 2007, gallech gael dirwy o £60 a thri phwynt ar eich trwydded.  Diffoddwch eich ffôn cyn cychwyn.

Diffoddwch eich ffôn cyn cychwyn

Mae gan ffonau symudol lawer o fanteision. Maen nhw’n eich diogelu ac yn help mawr mewn argyfwng. Ond mae profion wedi dangos bod galwad ffôn neu neges destun yn tynnu sylw’r gyrrwr. Os nad ydych chi’n canolbwyntio ar y ffordd, fyddwch chi ddim yn sylwi ar beryglon nac yn ymateb yn gyflym. Mae sgwrsio ar ffôn heb ddefnyddio’ch dwylo yn tynnu’ch sylw gymaint â defnyddio ffôn yn eich llaw.

Pwyntiau ar eich trwydded

Mae’n erbyn y gyfraith i ddefnyddio ffôn symudol yn eich llaw wrth yrru. Does dim rhaid i chi gael eich dal nifer o weithiau i golli’ch trwydded. Dim ond chwe phwynt sydd eu hangen yn y ddwy flynedd gyntaf ar ôl pasio’ch prawf i golli’ch trwydded o dan y Ddeddf Gyrwyr Newydd.

Gallech hefyd gael eich erlyn am ddefnyddio ffôn symudol heb ddefnyddio’ch dwylo os byddwch yn methu â rheoli’ch cerbyd yn iawn. Cewch yr un gosb ag am ddefnyddio ffôn yn eich llaw. A gallech gael eich gwahardd, eich dirwyo’n drwm a threulio hyd at ddwy flynedd mewn carchar am yrru’n ddiofal neu’n beryglus wrth ddefnyddio unrhyw ffôn.

Pam mae'r dirwyon yn codi?

  • Mewn arolygon, dywedodd dros 90% o’r bobl a holwyd y dylai defnyddio ffôn symudol yn eich llaw wrth yrru fod yn erbyn y gyfraith. Ond maent hefyd yn dangos bod mwy na 25% o yrwyr yn cyfaddef eu bod wedi gwneud hynny.
  • Mae’n anodd gwneud dau beth ar yr un pryd ac mae ymchwil yn dangos eich bod bedair gwaith yn fwy tebygol o gael damwain os byddwch yn defnyddio’ch ffôn symudol wrth yrru.
  • Yn wir, os byddwch yn defnyddio unrhyw fath o ffôn symudol (heb ddefnyddio dwylo neu ffôn yn eich llaw) wrth yrru, byddwch yn cymryd mwy o amser i ymateb na phe byddech yn gyrru dan ddylanwad alcohol.
  • Mae profion wedi dangos bod amserau ymateb gyrwyr a oedd yn defnyddio ffôn yn eu llaw 30% yn arafach na phetaent yn gyrru tra’n feddw. Roedden nhw 50% yn arafach na phetaen nhw’n gyrru o dan amodau arferol.

Adlewyrchir hyn yn y nifer cynyddol o adroddiadau newyddion sy’n sôn am yrwyr yn achosi damweiniau difrifol am nad oedden nhw’n gallu canolbwyntio ar y ffordd. A’r rheswm – roedden nhw’n defnyddio ffôn symudol ar y pryd.

Torri'r gyfraith

Wrth yrru, byddwch yn torri’r gyfraith os byddwch yn codi neu’n defnyddio unrhyw fath o ffôn y mae’n rhaid ei ddal yn eich llaw.  Mae hynny’n golygu, er enghraifft, na chewch ddefnyddio’ch ffôn symudol:

  • pan fyddwch wedi stopio wrth oleuadau traffig;
  • pan fyddwch mewn rhes o draffig;
  • i dderbyn galwadau, lluniau, negeseuon testun neu i fynd ar y rhyngrwyd.

Os ydych yn gyflogwr, gallech gael eich erlyn os byddwch yn gofyn i’ch gweithwyr ddefnyddio ffôn symudol wrth yrru.

A oes unrhyw eithriadau?

Oes - cewch wneud galwad 999 neu 112 i ymateb i argyfwng go iawn, pan na fydd yn ddiogel nac yn ymarferol i chi stopio i ffonio.
Nid yw’r drosedd hon yn cynnwys radio 2-ffordd ond mae dyfeisiadau eraill ar gyfer anfon neu dderbyn data wedi’u cynnwys os byddan nhw yn eich llaw wrth yrru.

Y cyngor gorau yw i chi ddiffodd eich ffôn cyn cychwyn

  • Pan fyddwch yn gyrru, dylech ddefnyddio’r system negeseuon llais, gwasanaeth negeseuon neu’r system ailgyfeirio negeseuon i chi allu gwrando ar negeseuon yn nes ymlaen.
  • Dim ond pan fyddwch wedi stopio mewn lle diogel y dylech ddefnyddio eich ffôn symudol. Ond peidiwch byth â stopio ar lain galed traffordd heblaw mewn argyfwng.
  • Peidiwch ag ateb galwadau ffôn wrth yrru, hyd yn oed ar ffôn heb ddefnyddio’ch dwylo. Gall y rhain hefyd dynnu eich sylw.  Os oes rhaid i chi eu hateb, dywedwch eich bod yn gyrru a dewch â’r sgwrs i ben yn gyflym. Fel arall, byddwch yn peryglu eich hun a phobl eraill ar y ffordd.

Rydym i gyd yn gyfrifol am ddiogelwch ar y ffyrdd. Os byddwch yn ffonio rhywun ac yn sylweddoli bod y person hwnnw’n gyrru, dewch â’r sgwrs i ben. Trefnwch i siarad ag ef neu hi rywbryd eto.  Allwch chi ddim gweld y peryglon na barnu cyflwr y ffordd pan fyddwch yn siarad â’r gyrrwr. A fyddech chi ddim am dynnu sylw’r gyrrwr pe byddech chi yn y car.

I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth ynghylch ffonau symudol ewch i www.thinkroadsafety.gov.uk neu cysylltwch â'ch Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd lleol drwy eich awdurdod lleol.