Skip to content

Rhaglen Gwella Coridor Trafnidiaeth yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach

Dolenni perthnasol

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynglŷn â’i hymagwedd at ddatrys problemau’n gysylltiedig â thrafnidiaeth sy’n effeithio ar ardal Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn Ne Ddwyrain Cymru.
Map M4 rhwng Magwyr a Chas-bach
Mae Traffordd yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach yn methu'n llwyr â chyrraedd safonau dylunio traffyrdd modern, mewn perthynas â chynhwysedd a diogelwch.

Beth sydd dan sylw?

Bu problemau gyda thagfeydd traffig ac amseroedd siwrnai annibynadwy hefyd yn ffaith bywyd ar yr M4 o amgylch Casnewydd ers blynyddoedd lawer.

Y problemau sy’n amlwg i ddefnyddwyr lleol a’r rhai sy’n teithio’n hirach (gan gynnwys cludwyr a theithwyr rhyngwladol) ar y rhan hon o’r M4 yw annibynadwyedd amseroedd siwrnai oherwydd tagfeydd cynyddol a methu ymdopi â newidiadau sydyn mewn galw neu weithredu. Mae’r problemau hyn yn waeth ar adegau teithio brig ac, wrth i nifer y defnyddwyr ar y rhwydwaith gynyddu, byddant yn gwaethygu.

Roedd astudiaeth fanwl o broblemau’r system drafnidiaeth yn Ne-ddwyrain Cymru’n mesur y methiannau hyn a rhai eraill arwyddocaol. I fynd i’r afael â’r materion hyn, cafodd syniad traffordd liniaru ei archwilio ond, ym mis Gorffennaf 2009, gwnaethom gyhoeddi nad oedd y dewis hwn yn fforddiadwy rhagor.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gellid gwneud gwelliannau pwysig i’r rhwydwaith trafnidiaeth presennol. Sefydlwyd Rhaglen Mesurau Gwella Coridor yr M4 (M4 CEM) rhwng Magwyr a Chas-bach i archwilio ffyrdd o wneud gwelliannau felly.

Pa gamau ymarferol a gymerwyd eisoes i fynd i'r afael â'r angen i wella?

Ers 2008, er mwyn gwneud yr M4 yn fwy diogel i ddefnyddwyr, disodlwyd rhannau o rwystrau canolog dur â rhwystrau canolog concrit. I leddfu tagfeydd traffig, gwnaethpwyd gwelliannau hefyd i'r gylchfan yng Nghyffordd 24 yng Ngholdra. Hefyd, mae LlC wedi prynu'r ffordd sy'n mynd drwy waith dur Llanwern er mwyn creu cyswllt rhwng Cyffordd 23a a Ffordd Ddosbarthu'r De, a elwir yn Ffordd Mynediad y Gweithfeydd Dur.

I wella diogelwch a llif traffig ar yr M4 rhwng Coldra a Pharc Tredegar, mae System Amrywio Cyflymder yn gweithredu, gyda swyddogion traffig yn atgyfnerthu'r mesurau diogelwch ac effeithlonrwydd hyn.

Mae Cam Un Ffordd Mynediad y Gweithfeydd Dur o'r Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol i fynedfa'r gweithfeydd wedi'i gwblhau. Mae Cam Dau, drwy'r gweithfeydd dur, bellach ar waith ac, ynghyd â gwelliannau diogelwch hyd at Gyffordd 23A yr M4 a gosod arwyddion ar gyffyrdd B4245, disgwylir iddynt gael eu cwblhau yng Ngwanwyn, 2013.

Nodau rhaglen M4 CEM

Tra bod camau ymarferol ar waith, mae'r rhaglen Mesurau Gwella Coridor yr M4 yn edrych ar sut i wella gallu'r coridor i ymdopi â'r lefel siwrneiau cyfredol mewn modd effeithlon, a galluogi i fwy o siwrneiau nag ar hyn o bryd gael eu gwneud. Mae 3 nod:

  • Cymdeithasol - ei gwneud hi'n haws i bobl gyrraedd gwasanaethau fel siopau, ysbytai, gwasanaeth hamdden a mannau gweithio, ar y ffordd, trafnidiaeth gyhoeddus, drwy gerdded neu feicio
  • Economaidd - cefnogi ac annog ffyniant yn y rhanbarth a ledled Cymru drwy gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth fwy effeithlon ar y porth economaidd pwysig hwn i Dde Cymru
  • Amgylcheddol - atal a lleihau effeithiau negyddol rhaglen Mesurau Gwella Coridor yr M4 ar bobl a'r amgylchedd, a lle bo'n ymarferol, darparu gwelliannau i gydbwyso yn eu herbyn.

Gyda phwy ydym ni'n siarad am hyn oll?

Canolbwynt cam cyntaf y broses ymgysylltu oedd deialog ddwyffordd gyda rhanddeiliaid a'r cyhoedd mewn arddangosfeydd a gweithdai a gynhaliwyd yn gynnar yn 2011. Roedd y rhain yn gyfle i adolygu problemau, targedau ac amcanion rhaglen M4 CEM. Mae hyn wedi helpu i bennu'r materion trafnidiaeth sy'n bryder i bobl a bod angen gwneud rhywbeth yn eu cylch.

Roedd ail gam y broses ymgysylltu'n archwilio rhestr hir o ddatrysiadau posibl i'r problemau a bennwyd mewn perthynas â theithio ar yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach. Ffurfiwyd Grŵp Fforwm Rhanddeiliaid gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys ystod eang o bobl a sefydliadau â diddordeb mewn teithio ar yr M4, neu bobl y gellid effeithio arnynt gan y rhaglen M4 CEM.

Gwerthuswyd dros 100 o ddatrysiadau, neu 'fesurau', posibl, a rhoddwyd ystyriaeth i syniadau newydd. Yna, aethpwyd drwy broses o sifftio'r rhestr hir er mwyn datblygu 'Pecynnau' o fesurau oedd yn cydweddu a allai gyflawni amcanion diffiniedig y Rhaglen. Gwerthuswyd y Pecynnau hyn ac fe'u cyflwynwyd i'r Fforwm Rhanddeiliaid er mwyn cael eu sylwadau. Yn dilyn adborth gan y Fforwm Rhanddeiliaid, mae astudiaeth bellach wedi'i chynnal i ddatblygu a mireinio dull y gellir ei gyflwyno i'r cyhoedd a rhanddeiliaid mewn Ymgynghoriad. Mae'r dull hwn yn cyflwyno nifer o fesurau sydd wedi'u mireinio ac yn cyfrannu at gyfuniad o opsiynau sy'n cydweddu, gan gynrychioli trafnidiaeth gyhoeddus, priffyrdd a datrysiadau teithio eraill.

Mae trydydd cam y broses ymgysylltu wedi'i ganoli ar Ddogfen Ymgynghori M4 CEM a'r Ffurflen Ymateb. Mae'r rhain yn rhoi'r cyfle i bobl helpu i lunio strategaeth i leihau tagfeydd ar yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach.

Ar hyn o bryd, rydym yn nhrydydd cam y broses ymgysylltu ac wrthi'n ymgynghori â'r cyhoedd yn gyffredinol a sefydliadau. Lansiwyd yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar 5 Mawrth 2012 a bydd yn para tan 6 Gorffennaf 2012.

Mae nifer o weithdai ac arddangosfeydd cyhoeddus eisoes wedi'u cynnal ac mae arddangosfeydd ychwanegol wedi'u trefnu fel a ganlyn:

  • Dydd Gwener 11 Mai yn Nh? Brynglas (canol dydd - 7pm)
  • Dydd Mawrth 15 Mai yn Eglwys y Bedyddwyr Ebeneser, Magwyr (canol dydd - 7pm)
  • Dydd Iau 17 Mai yng Nghanolfan Casnewydd (canol dydd - 7pm)

Ar ôl i'r ymgynghoriad ddos i ben, caiff yr holl ymatebion a dderbynnir eu hystyried yn ofalus ac yna bydd y Gweinidog yn penderfynu pa fesurau y dylid eu datblygu yn y dyfodol fel y strategaeth orau i ddatrys problemau capasiti, diogelwch a chydnerthedd ar Goridor yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach. Y bwriad yw bod y Gweinidog yn gwneud cyhoeddiad i'r perwyl hwn tua diwedd 2012.

Bydd eich barn o gymorth i Lywodraeth Cymru benderfynu ar strategaeth gadarn i hwyluso teithio ar yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach - a sicrhau bod y system drafnidiaeth yn gweithio'n well yn y dyfodol.

Gallwch ddod o hyd i'r ddogfen ymgynghori a'r ffurflen ymateb ar wefan ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru, neu www.m4cemymgynghoriad.com.

Sut galla’ i gael y wybodaeth ddiweddaraf?

Yn ogystal â gweld diweddariadau yma, cewch ymweld â’n wefan m4cem newydd am ychwaneg o wybodaeth. O’r safle wedi ei adeiladu’n bwrpasol, cewch lawr lwytho adroddiadau yn disgrifio canlyniadau ein dialog gydag eraill hyd yn hyn, a’r newyddion diweddaraf.