Skip to content

A470 Maes yr Helmau i Cross Foxes

Bydd y cynllun yma yn gwella'r ffordd presennol is - raddol i'r de ddwyrain o Ddolgellau.

Nod y Cynllun

Bydd y cynllun £11.3m, ychydig i’r dwyrain i Ddolgellau ac o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, yn disodli’r rhan bresennol o gefnffordd Caerdydd i Lan Conwy nad yw’n cyrraedd y safon ar hyn o bryd, gan wneud y ffordd yn fwy diogel i ddefnyddwyr.

Mae cefnffordd yr A470 rhwng Caerdydd a Glan Conwy yn gyswllt trafnidiaeth allweddol rhwng y Gogledd a’r De, ac yn gwasanaethu sawl cymuned. Mae hefyd yn llwybr ar gyfer trafnidiaeth fasnachol a lleol a thwristiaid.

 12 tro cas a’r ffaith ei bod yn anodd gweld ymhell iawn o’ch blaen, mae’r rhan o’r A470 wrth Faes yr Helmau wedi bod yn uchel ar restr flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran gwella cefnffyrdd yng Nghymru.

Yn ogystal, bydd y cynllun yn hwb uniongyrchol i’r economi leol drwy greu gwaith a chyfleoedd hyfforddi yn ystod y gwaith adeiladu.

Y diweddaraf am y Cynllun

Mae’r gwaith yn dechrau ar 15 Mawrth 2012 a bydd yn cael ei adeiladu ar gyfer Llywodraeth Cymru gan Alun Griffiths (Contractwyr) Cyf.