Skip to content

Prosiect yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia

Myfyrwyr o Batagonia yn dal y faner o Ariannin
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu'r fenter unigryw hon i hyrwyddo a chynnal y Gymraeg yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia yn yr Ariannin.

Bydd y prosiect yn derbyn £162,000 rhwng 2009 a 2012. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth tuag at raglen hyrwyddo'r iaith Gymraeg ym Mhatagonia ers 1997.  

Mae'r prosiect yn talu am y canlynol:

  • Athrawon mewn cymunedau a dargedwyd yn arbennig.
  • Datblygu athrawon brodorol.
  • Sefydlu cyrsiau strwythuredig.
  • Hybu gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r prosiect yn cael ei reoli ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad gan y Cyngor Prydeinig ar y cyd â Chymdeithas Cymru-Ariannin a Chanolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg i Oedolion Prifysgol Caerdydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ewch i wefan y Cyngor Prydeinig.